Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Credaf eich bod yn iawn—mae cyfeiriad yn y strategaeth economaidd at ddefnyddio datblygiad economaidd i dyfu a datblygu'r iaith, ond ni cheir unrhyw gyfeiriad at sut y gall yr iaith ei hun hybu twf economaidd. Cadeiriais un o gyfarfodydd diweddar Cymru Ryngwladol, y grŵp trawsbleidiol, a buom yn edrych ar adroddiad gan y Cyngor Prydeinig ar rym gymell tawel a sut i fanteisio i'r eithaf ar ein grym cymell tawel. Gwnaeth nifer o argymhellion, a rhai diddorol iawn hefyd. Un peth a gryfhaodd rym cymell tawel yr Alban dramor oedd y ffaith eu bod wedi cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn ddiweddar—ac rwy'n hyderus y cawn un yng Nghymru heb fod yn rhy hir hefyd—ond roedd hynny'n rhoi hwb i hunaniaeth y genedl. A pheth arall a argymhellodd oedd y dylem dynnu sylw at y pethau sy'n gwneud inni sefyll allan oddi wrth weddill y DU, ac mae un peth amlwg, sef yr iaith Gymraeg. Felly, onid oes llawer mwy y gall y Llywodraeth ei wneud i ddefnyddio'r iaith a'r ffaith ei bod yn gwneud inni sefyll allan a bod yn wahanol fel arf ar gyfer tyfu ein heconomi yng Nghymru?