Gwasanaethau Rheilffordd a Metro

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:38, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, buaswn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod fod gan drafnidiaeth rôl hanfodol i'w chwarae yn adfywio a thyfu'r economi nid yn unig mewn canolfannau cyfoeth sefydledig, ond hefyd mewn ardaloedd mwy difreintiedig. A bydd Rhymni yn cael buddsoddiad mewn platfform cilfach newydd; yn gweld buddsoddi mewn mannau cadw trenau ar y trac a phwyntiau gwefru a gwelliannau o ran mân waith cynnal a chadw. A bydd hyn yn cefnogi'r trenau ychwanegol a mwy o faint a fydd yn dod yn y dyfodol, ac mae'n ychwanegol at y pedwar gwasanaeth yr awr o 2023 ymlaen. Ond rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod y bydd mân waith cynnal a chadw ar y cerbydau yn cael ei gwblhau yng nghyfleusterau cadw trenau Rhymni, gan ddarparu cyfle ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, fel roedd hi'n gywir i nodi.