1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 4 Gorffennaf 2018.
2. Sut y bydd etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn elwa ar fuddsoddi mewn rheilffyrdd a gwasanaethau metro? OAQ52455
Bydd pobl leol yn fwy cysylltiedig a byddant yn gallu manteisio ar gyfleoedd swyddi, iechyd a hamdden. Bydd y metro yn darparu pedwar trên yr awr i bob un o gymunedau Blaenau'r Cymoedd i'r gogledd o orsaf Caerdydd Heol y Frenhines, o 2022 ymlaen ar gyfer Merthyr Tudful, ac o 2023 ymlaen ar gyfer Rhymni.
Diolch am y wybodaeth honno, sy'n nodi'r manteision clir wrth inni gyflawni ymrwymiad maniffesto 2016 yn y cyswllt hwn. Yn yr adroddiad diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree, 'Effective housing for people on low incomes in the Welsh Valleys', cafwyd argymhelliad—argymhelliad 3, mewn gwirionedd—i wella mynediad at gyflogaeth. A dywed yr adroddiad mai'r unig ffordd y gall mentrau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth fod yn effeithiol yw os ydynt yn arwain at gyflogaeth gynaliadwy o safon, ac mewn rhai rhannau o'r Cymoedd, sy'n cynnwys lleoedd fel cwm Rhymni uchaf mae'n debyg, bydd angen gwaith adnewyddu economaidd sylweddol er mwyn sicrhau hynny. Nawr, o gofio mai ychydig iawn o gyfleoedd sydd ar gael i ymyrryd yn uniongyrchol er lles economaidd y cymunedau hyn, ymddengys i mi, pan fydd ysgogiadau pŵer economaidd yn nwylo Llywodraeth Cymru, fel gyda buddsoddiad yn y fasnachfraint reilffordd a'r metro, bydd yn rhaid inni sicrhau mai ein cymunedau mwy ynysig, megis cwm Rhymni uchaf, sy'n elwa'n uniongyrchol o'r prosiectau hyn. A gaf fi ofyn i chi felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y byddwch yn ei wneud i sicrhau bod hyn yn digwydd?
Wel, buaswn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod fod gan drafnidiaeth rôl hanfodol i'w chwarae yn adfywio a thyfu'r economi nid yn unig mewn canolfannau cyfoeth sefydledig, ond hefyd mewn ardaloedd mwy difreintiedig. A bydd Rhymni yn cael buddsoddiad mewn platfform cilfach newydd; yn gweld buddsoddi mewn mannau cadw trenau ar y trac a phwyntiau gwefru a gwelliannau o ran mân waith cynnal a chadw. A bydd hyn yn cefnogi'r trenau ychwanegol a mwy o faint a fydd yn dod yn y dyfodol, ac mae'n ychwanegol at y pedwar gwasanaeth yr awr o 2023 ymlaen. Ond rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod y bydd mân waith cynnal a chadw ar y cerbydau yn cael ei gwblhau yng nghyfleusterau cadw trenau Rhymni, gan ddarparu cyfle ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, fel roedd hi'n gywir i nodi.
Mae trigolion y Cymoedd uchaf wedi dweud wrthyf sawl tro mai un o'r rhwystrau mwyaf i deithio i Gaerdydd i chwilio am waith yw'r gost, ac nid amlder y gwasanaeth na'r cyflymder o reidrwydd. Felly, o safbwynt hynny, a gaf fi groesawu'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a deiliad newydd y fasnachfraint i leihau prisiau siwrneiau o'r Cymoedd uchaf, ac a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yr un peth yn wir i bobl sy'n teithio o Gaerdydd i Ferthyr Tudful i weithio neu fel arall, ac a fydd hefyd yn wir i bobl sy'n dod o'r Cymoedd uchaf i Gasnewydd?
Ie, y nod gyda gwastatáu yw sicrhau bod y bobl sy'n manteisio ar gyfleoedd neu'n dod o'r cymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd yn talu llai, gan wneud yn siŵr ein bod yn darparu rhywfaint o gyfle cyfartal o ran mynediad a chyfleoedd gwaith. Mae'n werth dweud mai un o'r prif rwystrau sy'n wynebu pobl nad ydynt mewn gwaith yw cost ac argaeledd trafnidiaeth, a nodais un ystadegyn penodol sy'n peri cryn bryder i mi, sef nad yw 20 y cant o bobl ifanc yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn gallu mynychu eu cyfweliadau gwaith gan na allant fforddio neu gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw hynny'n dderbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain, a chredaf fod y cynlluniau teithio rhatach a'n cytundeb gwastatáu gyda'r gweithredwr a'r partner datblygu yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael mynediad at gyfleoedd gwaith.