Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Mae'r Aelod yn gwneud sawl pwynt pwysig a buaswn yn awgrymu y dylai unrhyw un sy'n siarad yn frwdfrydig ynghylch cyfleoedd dadreoleiddio roi ychydig o ystyriaeth yn gyntaf i'r hyn sydd wedi digwydd gyda gwasanaethau bws, ac asesu a yw cyfleoedd dadreoleiddio yn rhywbeth sydd bob amser yn ddeniadol ac yn fuddiol i'r boblogaeth ehangach.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am groesawu penodiad cadeirydd y comisiwn gwaith teg a dweud, er bod y gwaith o orfodi'r cyflog byw statudol yn druenus o brin o adnoddau a bod yr isafswm cyflog yn druenus o brin o adnoddau yn y DU, fod hyn yn rhywbeth y mae ein bwrdd gwaith teg wedi'i gydnabod? Felly, wrth i ni newid o fwrdd gwaith teg i'r comisiwn gwaith teg, penderfynwyd y bydd gorfodi a sut y gallwn sicrhau bod hyn yn digwydd yng Nghymru yn rhan gynnar o ystyriaethau'r comisiwn. Dylai'r comisiwn fod yn adrodd yn ôl gydag argymhellion cynnar yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf a buaswn yn gobeithio, o gofio'i fod am fod yn faes blaenoriaeth, y bydd gorfodi'r broses bwysig hon yn rhan o'r adroddiad, gydag argymhellion yn ystod y gwanwyn nesaf.