Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod y Comisiwn Cyflogau Isel yn ymweld ag Ynys Môn heddiw ac yfory i wrando ar farn pobl yr effeithiwyd arnynt gan yr isafswm cyflog. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol cynnwys pawb, o fusnesau, gweithwyr ac undebau llafur—yn wir, unrhyw un â buddiant yn y maes polisi cyhoeddus pwysig hwn—i sicrhau eu bod yn darparu tystiolaeth fel y gellir gosod isafswm cyflog y flwyddyn nesaf ar lefel briodol?