Gwasanaethau Rheilffordd a Metro

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:39, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, y nod gyda gwastatáu yw sicrhau bod y bobl sy'n manteisio ar gyfleoedd neu'n dod o'r cymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd yn talu llai, gan wneud yn siŵr ein bod yn darparu rhywfaint o gyfle cyfartal o ran mynediad a chyfleoedd gwaith. Mae'n werth dweud mai un o'r prif rwystrau sy'n wynebu pobl nad ydynt mewn gwaith yw cost ac argaeledd trafnidiaeth, a nodais un ystadegyn penodol sy'n peri cryn bryder i mi, sef nad yw 20 y cant o bobl ifanc yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn gallu mynychu eu cyfweliadau gwaith gan na allant fforddio neu gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw hynny'n dderbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain, a chredaf fod y cynlluniau teithio rhatach a'n cytundeb gwastatáu gyda'r gweithredwr a'r partner datblygu yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael mynediad at gyfleoedd gwaith.