Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr iawn. Cyn i mi ddechrau, fe wnaf i egluro: cwestiynau i chi yw'r rhain, nid i'r Gweinidog dros dreftadaeth na'r iaith.
Buaswn i'n licio dechrau trwy longyfarch yr holl fusnesau hynny sydd ag agwedd iach ac adeiladol tuag at y Gymraeg, nid yn unig oherwydd eu bod nhw'n cefnogi'r Gymraeg a'n diwylliant ni, ond hefyd oherwydd eu bod nhw'n gweld gwerth i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu busnes. Ond, wrth gwrs, mae yna eithriadau. Felly, o ystyried sylwadau gwbl sarhaus gan un cwmni—ni wnaf ei enwi—am yr iaith dros y dyddiau diwethaf, a ydych chi'n credu y gallwn ni wastad ddibynnu ar ewyllys da cwmnïau preifat i barchu a defnyddio'r iaith Gymraeg?