Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:41, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ni chredaf y gallwn ddibynnu ar ewyllys da yn unig o reidrwydd; credaf mai'r hyn sydd ei angen yw ewyllys da, rhywfaint o gydweithredu â Llywodraeth Cymru, ond cydnabyddiaeth hefyd, os ydych am fod yn llwyddiannus mewn busnes, yn enwedig yn y sector manwerthu—ac mae'r cwmni nad yw'r Aelod wedi'i enwi yn rhan o'r sector manwerthu—mae angen i chi ymgysylltu â'r gymuned rydych yn dibynnu arni, yn y bôn, i oroesi. Os ydych yn gelyniaethu cyfran sylweddol o'r gymuned honno, ni ddylech ddisgwyl iddynt fod yn gwsmeriaid. Ac felly, nid yn unig ei bod yn gwneud synnwyr busnes da i fabwysiadu a chroesawu'r iaith Gymraeg, ond mae hefyd yn gwneud synnwyr masnachol da, gan y gallwch ychwanegu gwerth at eich cynnyrch a'ch gwasanaethau drwy ddefnyddio rhywbeth sy'n unigryw, ac mae'r iaith yn hollol unigryw i Gymru.