Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar hyn o bryd, mae Trafnidiaeth Cymru yn chwilio am gontractwyr sifil arbenigol ar gyfer fframwaith y gwaith ar y rheilffyrdd, sy'n cynnwys gwaith ategol ar orsafoedd, cyfnewidfeydd, meysydd parcio, ffyrdd a llwybrau a gwaith adeiladu cyffredinol arall sy'n gysylltiedig â gwella'r rheilffyrdd. Fodd bynnag, yn 2014, cyhoeddodd eich rhagflaenydd y byddai Casnewydd yn cael £4 miliwn ar gyfer pont droed newydd i groesi'r orsaf drenau, gwelliannau i'r orsaf fysiau newydd ac ar gyfer safleoedd bws yn y ddinas. Rwy'n deall na ddarparwyd y cyllid hwn ac na chafodd y gwaith ei wneud hyd yn oed. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau hyn a rhoi gwybod inni pam na fwriwyd ymlaen â'r gwelliannau hyn, er iddynt gael eu cyhoeddi yng Nghymru? Diolch.