Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Diolch. A gaf fi sicrhau'r Aelod y byddaf yn edrych ar hyn? Efallai y bydd angen ymgynghori â Network Rail. Bydd angen imi edrych yn fanwl ar y buddsoddiad a gyhoeddwyd, a gwirio yn erbyn hynny yr hyn a gyflawnwyd mewn gwirionedd. Os ceir achos o dorri addewidion, bydd angen imi asesu wedyn pam na wnaed y buddsoddiad hwnnw yn yr orsaf fel y mae'r Aelod yn ei amlinellu.