Hyrwyddo Ymgysylltiad Moesegol mewn Chwaraeon

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:12, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, rwy'n derbyn y pwyntiau a wnewch, a byddwch yn cofio bod y Prif Weinidog wedi ymateb yr wythnos diwethaf i gwestiwn gan ein cyfaill yma, Mick Antoniw, am y grŵp trawslywodraethol a sefydlwyd i ddatblygu dull strategol o leihau niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru, a chredaf ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych eto ar argymhellion adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol, a alwodd am weithredu cydgysylltiedig ac a nododd weithgarwch newydd a allai fod yn angenrheidiol ar lefel Cymru a lefel y DU. A chan fy mod wedi cael fy holi ynglŷn â'r berthynas rhwng pêl-droed, ac yn fwy penodol, rhwng rygbi a betio, byddaf yn sicr yn codi'r materion hyn gyda chyrff rheoli chwaraeon lle mae'n ymddangos bod gweithgarwch gamblo'n cael ei hyrwyddo ochr yn ochr â gweithgarwch chwaraeon, gan nad dyna yw rôl y cyrff rheoli chwaraeon. Rwy'n deall bod cyrff rheoli chwaraeon yn elwa o incwm mewn ffyrdd gwahanol, ac mae hwnnw'n fater masnachol iddynt hwy, ond lle mae iechyd y boblogaeth yn cael ei niweidio drwy hyrwyddo gweithgarwch sy'n gysylltiedig â chwaraeon, dylem ni, y Llywodraeth, ymyrryd.