Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Un o'r materion sy'n peri pryder imi, sy'n fater moesegol enfawr, yw'r cysylltiad cynyddol rhwng y diwydiant gamblo a chwaraeon. Mae ymchwil a wnaed gan goleg Goldsmiths yn Llundain yn dangos bod logos cwmnïau gamblo i'w gweld ar gemau a ddarlledir ar y teledu y rhan fwyaf o'r amser. Mae'n ymgais fwriadol i gyflyru meddyliau plant i feddwl bod gamblo yn rhan o fod yn gefnogwr chwaraeon, ac mae hynny'n gwbl resynus yn fy marn i. Nawr, mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn Lloegr wedi cyhoeddi y bydd yr holl gytundebau nawdd â chwmnïau betio yn dod i ben, ond yn anffodus, nid yw rygbi wedi cicio gamblo allan o'r gêm eto. Felly, beth y credwch y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â nawdd betio mewn chwaraeon, sy'n troi'r peth yn endemig yn yr un ffordd ag yr arferai'r cwmnïau tybaco mawr ei wneud yn y gorffennol?