Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Mae hynny'n hollol iawn. Eto, o dynnu sylw at y busnesau hynny sydd eisoes yn gweithredu'n gadarnhaol, mae o'n fy nharo i y dylai'r busnesau hynny eu hunain gael eu defnyddio i annog busnesau eraill i fod yn fwy cadarnhaol tuag at yr iaith, yn enwedig hefyd o ystyried y cyfraniad mawr y gall y sector breifat ei wneud tuag at gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Pam felly, os caf fi ofyn, nad oedd apêl ar fusnesau i ymestyn eu cefnogaeth a'u defnydd o'r Gymraeg fel un o alwadau gweithredu craidd eich strategaeth economaidd chi ac yn enwedig lle mae yna gwmnïau wedi derbyn arian Llywodraeth?