Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Pan gyhoeddoch chi eich adolygiad arloesi digidol, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch eich bod yn awyddus i ddatblygu potensial ein rhanbarthau er mwyn iddynt gynnal gwell swyddi yn nes at adref, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn cytuno â chi yn ei gylch. Rydych hefyd wedi bod yn gefnogol iawn, fel finnau, i fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru. Nawr, er mwyn sicrhau bod canolbarth Cymru yn cysylltu ag economi ehangach canolbarth Lloegr, dylai gwelliannau o ran cysylltedd band eang cyflym iawn a signal ffonau symudol fod yn rhan o unrhyw fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru. Tybed a fyddech yn cytuno â mi ar hynny?
A gaf fi ofyn pa gamau rydych yn eu cymryd ar y cyd â'ch cyd-Aelod, arweinydd y tŷ, i sicrhau nad yw'r gagendor digidol rhwng canolbarth Cymru a rhannau eraill o Gymru yn ehangu ymhellach, gan fod hynny, yn anffodus, yn digwydd ar hyn o bryd?