Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Wel, rwyf wrth fy modd y bydd cam nesaf Cyflymu Cymru yn cael ei gyhoeddi gan arweinydd y tŷ yn yr haf. Mae'r Aelod yn llygad ei le wrth nodi manteision economaidd cysylltedd digidol. Yn wir, mae perfformiad cryf y sector digidol wedi helpu i greu neu ddiogelu oddeutu 11,000 o swyddi uchel eu gwerth yn yr wyth mlynedd diwethaf o ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac mae perfformiad y sector yn y flwyddyn ddiwethaf yn arbennig o syfrdanol, gan fod bron i 30 y cant o brosiectau buddsoddi uniongyrchol o dramor a gofnodwyd yng Nghymru wedi dod drwy'r sector digidol. Felly, mae'n gyfrannwr pwysig iawn i gyfoeth y genedl. O ran gogledd Cymru yn benodol, wel, rwy'n falch iawn o ddweud bod y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn cydweithio i ddatblygu strategaeth i wella cysylltedd digidol ar draws y rhanbarth. Gwn y bydd arweinwyr cais y fargen twf yn awyddus iawn i archwilio pob cyfle i fanteisio ar y seilwaith a'r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.