Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Bydd ein cysylltiadau masnachu â gweddill y byd, wrth gwrs, yn ganolog i dwf economaidd yn y dyfodol. Fel rhan o'r paratoadau i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu 14 gweithgor masnach sy'n cynnwys 21 o drydydd gwledydd i osod sylfeini ar gyfer cytundebau masnach annibynnol yn y dyfodol ar ôl gadael undeb tollau Ewrop. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at y pwyllgor materion allanol ym mis Mai i ddweud nad yw Llywodraeth Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan, neu nad ymgynghorwyd â hi ynglŷn â gwaith gweithgorau o'r fath, ond mae'r un pwyllgor wedi cael gohebiaeth gan yr Adran Masnach Ryngwladol ers hynny'n dweud bod blaenraglen waith wedi'i sefydlu gyda'r gweinyddiaethau datganoledig. Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod hynny wedi digwydd, a thybed a all egluro i'r Cynulliad i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan yn y gweithgorau hynny.