Tyfu'r Economi

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:17, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn siŵr a oedd y llythyr a gafwyd ynghylch y flaenraglen waith a chyfranogiad y gweinyddiaethau datganoledig yn nodi, mewn gwirionedd, i ba raddau roedd y gweinyddiaethau datganoledig yn rhan annatod o'r broses o benderfynu ar y gwaith penodol a fydd yn cael ei ddatblygu. Buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelodau i egluro'n union pa ymgysylltiad a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y mater hwn, ac yn wir, pa ymgysylltiad a gafwyd rhwng y gweinyddiaethau datganoledig hefyd.