Seilwaith Beicio Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:20, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ceir llawer o rwystredigaeth o ganlyniad i awdurdodau lleol nad ydynt yn buddsoddi yn y seilwaith teithio llesol, ac mae'r rhwystredigaeth yn arbennig o amlwg pan nad yw datblygiadau newydd yn ystyried egwyddorion teithio llesol. Yn fy ardal i, methodd cais cynllunio diweddar ar gyfer siop goffi archebu o'r car yn y Gellifedw, Abertawe nad oedd yn darparu unrhyw seilwaith teithio llesol ar gyfer cerddwyr neu feicwyr. Gwn fod y cliw yn y teitl. [Chwerthin.] Felly, sut y gallwn ddisgwyl i bobl deithio'n llesol os nad ydym yn barod i osod seilwaith hanfodol? A ydych yn cytuno bod angen deddfwriaeth gynllunio gryfach o lawer yma yng Nghymru os ydym am wneud cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn?