Seilwaith Beicio Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:21, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ni fuaswn yn dymuno annog cerddwyr na beicwyr i ddefnyddio cyfleusterau archebu o'r car mewn unrhyw fwyty neu gaffi bwyd brys. Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig sefydlu darpariaeth mewn unrhyw gyfleuster hamdden i storio beiciau dan glo yn ddiogel ac i bobl allu cael mynediad atynt ar droed ar lwybrau troed diogel i gerddwyr. Credaf fod y canllawiau dylunio ar gyfer llwybrau teithio llesol yn chwarae rôl bwysig yn hyn o beth, ond credaf hefyd fod angen inni edrych ar ganllawiau cynllunio a rheolau cynllunio, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths wedi dangos cryn ddiddordeb ynddo yn ddiweddar. Ond buaswn hefyd yn ychwanegu nad oes esgus bellach dros beidio â buddsoddi mewn cynlluniau teithio llesol, o gofio ein bod wedi cynyddu'n sylweddol faint o adnoddau sydd ar gael i awdurdodau lleol gyflawni'r cynlluniau hynny.