Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae bargen ddinesig Bae Abertawe yn seiliedig ac yn dibynnu ar gysylltedd digidol. Yn yr achos busnes cychwynnol ar gyfer y fargen ddinesig, cynigiwyd gosod cebl trawsatlantig newydd â chapasiti terabit rhwng Efrog Newydd a Bae Oxwich, ond ni chafodd ei gynnwys yn y fargen derfynol. Byddai'r cyswllt newydd wedi rhoi rhanbarth Bae Abertawe ar draffordd ddigidol, gan ddarparu nid yn unig cyflymderau uwch a gwell capasiti, ond hefyd, yn fwy pwysig, cuddni is. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth a ddigwyddodd i'r cebl trawsatlantig newydd?