Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Wel, roeddwn bob amser o'r farn fod y weledigaeth a amlinellwyd gan Syr Terry Matthews yn gwbl ardderchog, ac mae'n weledigaeth a ddefnyddiwyd i lunio bargen ddinesig Bae Abertawe. Nawr, cyfrifoldeb arweinwyr awdurdodau lleol yw llunio bargen ddinesig sy'n seiliedig ar gryfderau presennol yn ogystal â chyfleoedd y rhanbarth yn y dyfodol. Gwn fod arweinwyr dinas-ranbarth Bae Abertawe yn benderfynol o wneud y gorau o'r dulliau sydd ar gael iddynt drwy'r fargen, ac rwy'n eu hannog i barhau i feddwl am y weledigaeth a amlinellwyd gan Syr Terry Matthews ac i sicrhau bod yr ymyriadau a'r buddsoddiadau a wneir yn y rhanbarth yn sicrhau'r gwerth mwyaf posibl i'r bobl y cawsant eu llunio i'w gwasanaethu.