Hyrwyddo Ymgysylltiad Moesegol mewn Chwaraeon

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:09, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Bydd yr Aelod yn gwybod bod Chwaraeon Cymru yn gweithredu ar ein rhan fel y corff a noddir gan y Llywodraeth ym maes chwaraeon. I'r perwyl hwnnw, cynhaliodd gynhadledd y llynedd ar foeseg ac uniondeb, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod gwerthoedd chwarae teg mewn chwaraeon, a'r angen i bob sefydliad chwaraeon ac unigolyn gynnal y lefelau uchaf o uniondeb.