Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Rwy'n falch iawn o glywed eich ymateb, Weinidog, ond cyfarfûm â Sports Chaplaincy Wales yr wythnos diwethaf. Mae ganddynt 50 o gaplaniaid gwirfoddol yn gweithio gyda chlybiau chwaraeon ledled y wlad—gan gynnwys rhai o'n clybiau mwyaf—Caerdydd, clwb pêl-droed Dinas Abertawe, y Gweilch, y Scarlets a Gleision Caerdydd yn eu plith. Maent yn gwneud llawer iawn o waith yn darparu gwerth oddeutu £0.5 miliwn o oriau gwirfoddol ar ffurf gofal bugeiliol, hybu ymgysylltiad moesegol mewn chwaraeon yn clybiau y maent yn gweithio ynddynt, ymdrin â phethau fel camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ac yn wir, helpu pobl drwy eu problemau personol. Tybed a allech ddweud wrthym pa ymgysylltiad a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a gwasanaethau caplaniaeth chwaraeon, ac os na fu unrhyw ymgysylltiad, a fyddech yn barod i gyfarfod â hwy gyda mi er mwyn trafod sut y gallant gefnogi uchelgais y Llywodraeth i sicrhau bod gennym athletwyr moesegol yng Nghymru yn y dyfodol.