Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:53, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Buaswn yn dweud bod angen inni ddatrys rhai materion pwysig sy'n ymwneud â gweithgarwch awdurdodau lleol, gan gynnwys cynllunio, er enghraifft. Mae hefyd yn hanfodol fod gennym broses symlach a mwy tryloyw ar gyfer cefnogi busnesau—dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn cydgrynhoi nifer o gronfeydd ar ffurf cronfa dyfodol yr economi. Ond yn y misoedd i ddod, wrth i ni roi'r cynllun gweithredu economaidd ar waith ymhellach, gyda ffocws penodol ar ran ranbarthol y cynllun, rwy'n awyddus i archwilio lle y gallwn gydgrynhoi cymaint â phosibl ar y gweithgarwch y mae llywodraeth leol yn ei gyflawni ar y cyd ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, er mwyn gwneud rhagor i leihau'r fiwrocratiaeth a'r weinyddiaeth y mae llawer o fusnesau yn cwyno amdanynt, ac i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n hadnoddau cyfunol.