Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Mae’n amlwg bod nifer ohonom ni’n poeni am y peiriannau mewn siopau gamblo ac yn croesawu’r ffaith ei bod yn fwriad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gyfyngu’r bets fesul un i £2 ar y peiriannu yna, ond wedyn yn cael ein siomi y bydd o leiaf dwy flynedd cyn bod hynny’n cael ei gyflawni. Mae yna ddulliau rheoli a deddfu gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys, wrth gwrs, deddfu cynllunio. Yn absenoldeb gweithredu gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, a fyddai o fewn cymhwysedd y Senedd hon ac felly’r Llywodraeth i ddefnyddio rheolau cynllunio i gyfyngu ar y peiriannau hyn ac, efallai, i gyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain i gyfyngu ar y peiriannau hyn?