2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 4 Gorffennaf 2018.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynghylch deddfu yn erbyn gamblo cymhellol? OAQ52463
Mae grŵp trawslywodraethol o swyddogion yn gyfrifol am ddatblygu dull gweithredu strategol i leihau niwed sy’n gysylltiedig â gamblo. Ar hyn o bryd mae’r grŵp wrthi’n ystyried argymhellion adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol, a bydd y grŵp yn cydlynu camau gweithredu ac yn nodi gweithgarwch newydd sy’n ofynnol, gan gynnwys unrhyw alwadau am gamau pellach sy’n ofynnol ar lefel y Deyrnas Unedig.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Mae’n amlwg bod nifer ohonom ni’n poeni am y peiriannau mewn siopau gamblo ac yn croesawu’r ffaith ei bod yn fwriad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gyfyngu’r bets fesul un i £2 ar y peiriannu yna, ond wedyn yn cael ein siomi y bydd o leiaf dwy flynedd cyn bod hynny’n cael ei gyflawni. Mae yna ddulliau rheoli a deddfu gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys, wrth gwrs, deddfu cynllunio. Yn absenoldeb gweithredu gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, a fyddai o fewn cymhwysedd y Senedd hon ac felly’r Llywodraeth i ddefnyddio rheolau cynllunio i gyfyngu ar y peiriannau hyn ac, efallai, i gyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain i gyfyngu ar y peiriannau hyn?
Diolch am y cwestiwn pellach. Fel Llywodraeth, rŷm ni'n gweithio ar draws portffolio i sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn y gallwn i daclo'r broblem hon, sydd yn broblem iechyd ac sy'n broblem eang. Mae'r prif swyddog meddygol yn arwain llawer iawn o'r gwaith hwnnw. Fel, efallai, y bydd yr Aelod yn gwybod, mae ymgynghoriad ar hyn o bryd ynghylch newidiadau i'r system gynllunio a fydd yn cynnig newid dosbarthu swyddfeydd betio o ddosbarth A2, sydd yn golygu y bydd angen cytundeb cynllunio er mwyn newid defnydd o'r math yna o swyddfa. Felly, os aiff hynny ymlaen, bydd hynny yn darparu cyfle i lywodraeth leol daclo hyn ar ryw lefel. Mae'r problemau'n digwydd yn sgil y swyddfeydd yma sydd yn lleihau pobl sydd yn dod i mewn i'r strydoedd mawr yn ein trefi a'n pentrefi ni. Felly, bydd y newid hwnnw, os aiff yn ei flaen, yn galluogi awdurdodau lleol i ddylunio eu cynlluniau LDP gyda'r broblem hon mewn golwg. O ran cymhwysedd ehangach yn ymwneud â gamblo, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae cymhwysedd cyfyngedig iawn gan y Llywodraeth a'r Cynulliad yn y maes hwnnw, sy'n gyfyngedig i rifau peiriannau, yn hytrach na'r uchafswm sy'n gallu cael ei wario ar unrhyw un achlysur o gamblo. Mae cyfnod yn mynd i fod o ddwy flynedd cyn bod y newidiadau hynny yn dod i rym. Mae'r Llywodraeth yn croesawu'r ffaith bod y newid yn cyfyngu ar yr uchafswm, ond nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i ddefnyddio pwerau cyfyngedig y Llywodraeth yn y cyfamser.