Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn hwnnw. Dylwn ddweud, er nad yw yn fy etholaeth, y byddai etholwyr Castell-nedd yn elwa o unrhyw ddatblygiad o'r math hwn, felly rwyf am ddatgan buddiant o ran hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried sut y gallai ddefnyddio ei phwerau i gefnogi modelau cyflawni amgen a allai ddeillio o uwchgynhadledd ynni'r môr ac o'r trafodaethau parhaus gydag arweinwyr rhanbarthol, y cyfeirir atynt yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar 26 Mehefin.