Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
A gaf fi ddiolch i chi am yr ymateb hwnnw? Mae unfrydedd wedi bod ymysg y rhai ohonom sy'n cynrychioli'r rhanbarth cyfan hwnnw yn ne-orllewin Cymru, gan ddechrau efallai gyda fy nghyd-Aelod a fy nghymydog gyda'r hanner arall ohono, David Rees, ond hefyd yr Aelodau rhanbarthol ar draws y pleidiau sydd wedi dangos eu cefnogaeth yn llawn. Felly, nid yw hwn yn sylw gwleidyddiaeth plaid fel y cyfryw. Ond mae model newydd ar gyfer y morlyn yn cael ei drafod, nad yw'n seiliedig ar y contract gwahaniaeth, gyda Llywodraeth y DU. Felly, ni fyddai'r model newydd yn cynnwys y pwerau a gadwyd yn ôl gan San Steffan. A oes gan Lywodraeth Cymru hyblygrwydd ychwanegol i gefnogi'r dull hwn o ariannu'r morlyn?