Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr. Wrth osod y cwestiwn, wrth gwrs, Gwnsler Cyffredinol, nid oeddwn yn gwybod eich bod yn gwneud datganiad ddoe, lle ges i gyfle i ofyn y cwestiwn atodol i chi ddoe yn hytrach na heddiw. Ond, serch hynny, mae digwyddiadau dros nos jest yn tanlinellu, rydw i'n meddwl, pa mor sensitif yw natur y ffaith bod y cytundeb rhynglywodraethol yn ein harwain ni at sefyllfa lle mae Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn cael ei thynnu'n ôl. Rydw i'n cyfeirio at y Papur Gwyn ar bysgodfeydd, sydd wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol y bore yma. Eto, nid oes adlewyrchiad yn y papur yna o'r trafodaethau y cawsom ni ddoe yn y Siambr yma am bysgodfeydd yng Nghymru. Mae'r pwysigrwydd bod y cytundeb rhynglywodraethol yn gorfod adlewyrchu'r fath o gytundeb masnach sy'n cael ei wneud yn y pen draw yn hollbwysig, rydw i'n meddwl, i'r penderfyniad ynglŷn ag a ydym ni'n cadw'r ddeddfwriaeth yn fan hyn a'r hawl i ddeddfu'n llwyr yn fan hyn, neu yn rhannu—fel y mae'r cytundeb rhynglywodraethol wedi ei wneud—â'r Llywodraeth yn San Steffan.
Ddoe, wrth ateb y cwestiwn roeddwn yn mynd i ofyn heddiw, wnaethoch chi ddweud eich bod yn cadw'r cytundeb rhynglywodraethol dan chwyddwydr wrth weld sut y mae'n gweithredu ac ati. Pa bryd y byddwch chi'n asesu a ydy'r cytundeb yma yn gweithredu? A fyddwch chi'n gwneud hynny cyn bod y cyfnod ymgynghorol a'r cyfnod i benderfynu ar ddiddymu'r Ddeddf yma yn dod i ben?