Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn un sydd yn glir ar yr hyn sydd angen digwydd o ran y goblygiadau i'r rhai sydd yn cytuno i'w dermau. Fel gwnes i grybwyll ar y mater ddoe, oherwydd y cytundeb hwn, fe wnaethom ni gael sicrwydd ar y newidiadau i'r Ddeddf sydd wedi, erbyn hyn, cael Cydsyniad Brenhinol yn San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod hyn yn golygu bod mwy o bwerau yn dod i'r lle hwn yn sgil y cytundeb hwnnw. Rwy'n hapus i gymryd y cyfle hwn eto i sicrhau yr Aelod fod gan Lywodraeth Cymru pob bwriad i sicrhau bod y Llywodraeth hon a Llywodraeth San Steffan yn glynu'n agos at y termau y gwnaethpwyd cytundeb arnyn nhw yn y cytundeb hwnnw.