4. Datganiadau 90 Eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:16, 4 Gorffennaf 2018

Mae cyfraniad Meic Stephens, a fu farw ddoe yn 79 oed, tuag at lenyddiaeth Cymraeg a Chymreig yn amhrisiadwy. Drwy ei waith diflino fel awdur, bardd, cyfarwyddwr cyngor y celfyddydau, sefydlwr cylchgronau ac athro prifysgol fe ehangodd ein gwerthfawrogiad a’n dealltwriaeth o ystod llenyddiaeth ein cenedl yn y ddwy iaith.

Yn enedigol o Drefforest, fe aeth ati gydag arddeliad i addysgu ei hun, gan dreulio cyfnodau yn Aberystwyth, Bangor a Rennes yn Llydaw cyn mynd ati i ddysgu gwahanol grefftau, fel athro Ffrangeg yng Nglyn Ebwy ac yna'n newyddiadurwr gyda’r Western Mail. Er mai ar aelwyd di-Gymraeg y cafodd ei fagu, penderfynodd gofleidio ei dreftadaeth Gymraeg gydag arddeliad. Roedd yn genedlaetholwr i’r carn. Yn wir, fe oedd yn gyfrifol am ysgrifennu’r slogan bythgofiadwy ‘Cofiwch Dryweryn’ ar y graig yna ger Llanrhystud: gweithred chwyldroadol bwysig gan ŵr hynaws a meddylgar. Mae dyled Cymru i Meic Stephens yn anferth, a bydd yn cael ei gofio am byth fel arwr llenyddol cenedlaethol.