Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Rwy'n siwr y byddai pawb ohonoch yn hoffi ategu fy niolch i'r bobl ifanc am rannu eu barn a'u profiadau gyda ni. Gobeithio ei fod wedi rhoi blas i bawb o rai o'r pethau a gododd yn ystod ein hymchwiliad.
Felly, beth oedd ein casgliad? Rydym yn credu bod angen newid sylweddol ar frys yn y cymorth sydd ar gael ar gyfer iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r hyn sydd ar gael wedi bod yn rhy gyfyngedig yn rhy hir. Rydym wedi galw ein hadroddiad yn 'Cadernid Meddwl', oherwydd credwn ei bod hi'n bryd i ni sicrhau hynny—dangos cadernid meddwl; darparu cymorth iechyd meddwl ac iechyd emosiynol priodol, amserol ac effeithiol ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, unwaith ac am byth.
Er ein bod yn cydnabod bod gwelliannau wedi cael eu gwneud mewn gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc dros y ddwy flynedd ddiwethaf, nid yw'n ddigon. Mae angen gwneud mwy, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal argyfwng a sut yr atgyfeiriwn ein plant a'n pobl ifanc fwyaf agored i niwed at wasanaethau cymorth. Ni ddylai diagnosis meddygol gael ei weld fel yr unig allwedd sy'n agor y drws i gymorth. Nid yw'r ffaith nad yw rhywun wedi cael diagnosis o anhwylder yn lleihau difrifoldeb y trallod a'r niwed a ddioddefir. Ni ddylai hynny fod yn rhwystr rhag cael cymorth gyda gwasanaethau.
Mae angen dybryd i ni helpu'r hyn a elwir yn 'canol coll'. Yn 2014, dywedwyd wrth y pwyllgor a'n rhagflaenai fod gormod o plant a phobl ifanc mewn gwasanathau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS) arbenigol yn cael eu hatgyfeirio yno yn amhriodol ac y dylid eu helpu mewn rhannau eraill o'r system. Erbyn 2018, nid oes digon wedi newid. Yn syml, mae'r darnau jig-so a ddylai fod yn eu lle ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc y tu allan i'r rhan fwyaf o leoliadau arbenigol ar goll. Bedair blynedd ers yr ymchwiliad diwethaf, mae hyn yn annerbyniol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hyn ar frys.
Fel pwyllgor, credwn fod yn rhaid gwneud rhywbeth drastig ar y pen ataliol i'r gwasanaethau. Os ydym yn parhau i fethu darparu llesiant emosiynol, gwydnwch a chymorth ymyrraeth gynnar, bydd plant a phobl ifanc yn parhau i ddioddef yn ddiangen. Mae hefyd yn golygu y bydd cynaliadwyedd gwasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol yn parhau i fod o dan fygythiad.
Felly, beth sydd angen digwydd? Credwn fod angen newid sylweddol yn y flaenoriaeth a roddir i wydnwch emosiynol a llesiant plant a phobl ifanc. Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod hon yn flaenoriaeth genedlaethol benodol. Ond nid yw geiriau'n unig yn ddigon. Mae angen iddynt fod yn seiliedig ar gynlluniau, adnoddau ac ymrwymiad i gyflawni newid gwirioneddol. Credwn fod angen clustnodi adnoddau i wneud ysgolion yn ganolfannau cymorth traws-sector a thrawsbroffesiynol ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol yn ein cymunedau. Credwn hefyd y dylid rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl ac iechyd emosiynol i'r rheini sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â stigma, hybu iechyd meddwl da, a'u galluogi i gyfeirio at wasanaethau lle bo angen.
Mae diwygio'r cwricwlwm yng Nghymru yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ymgorffori llesiant ym mywydau ein plant, ac mae ysgolion mewn sefyllfa dda iawn i wneud cyfraniad sylweddol tuag at adeiladu poblogaeth o bobl ifanc sy'n wydn yn emosiynol. Ond ni allant wneud hynny ar eu pennau eu hunain. Yn sicr nid ydym yn disgwyl i athrawon ac aelodau eraill o staff ysgol ddod yn arbenigwyr mewn iechyd meddwl. Mae cefnogaeth gan gyrff statudol eraill a chyrff y trydydd sector, ac iechyd yn enwedig, yn hanfodol. Mae angen i'r dull ysgol gyfan, lle mae ethos iechyd meddwl da yn llifo drwy bopeth, fod yn gyfrifoldeb traws-sector ac rydym angen newid sylweddol go iawn ar gyfer cyflawni hynny.
Mae ein hadroddiad yn gwneud un argymhelliad allweddol a 27 i'w gefnogi. Gyda'i gilydd, credwn y bydd y rhain yn sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen i adeiladu poblogaeth o blant a phobl ifanc sy'n wydn yn emosiynol ac yn feddyliol iach yng Nghymru. Maent yn fanwl, yn heriol ac yn uchelgeisiol, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn haeddu cael uchelgais uchel wedi'i gosod, ac yn haeddu'r galwadau sylweddol rydym yn eu gwneud ar eu rhan.
Dyna pam y mae'n rhaid i mi ddweud, yn anffodus, fy mod i a'r pwyllgor yn siomedig iawn gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion. Yn gyntaf, mae gormod o bwyntiau hanfodol wedi'u gwrthod. Yn ail, er bod llawer o argymhellion wedi cael eu derbyn mewn egwyddor, mae hyn, i raddau helaeth, ar y sail fod Llywodraeth Cymru o'r farn fod y pethau rydym wedi galw amdanynt eisoes yn eu lle. Wel, rwy'n dweud wrth Lywodraeth Cymru heddiw: nid ydym yn cytuno â chi. Nid ydym yn credu bod digon o sylw wedi cael ei roi i'r dystiolaeth gadarn a chynhwysfawr rydym wedi'i chyflwyno yn ein hadroddiad. Yn olaf, nid yw ymateb y Llywodraeth yn bodloni ein disgwyliadau, a'n galwadau am newid sylweddol o ran dull o weithredu. Fel pwyllgor, rydym yn gwrthod yr ymateb hwn; nid yw'n ddigon da. Nid yw'r dystiolaeth fanwl rydym wedi'i hamlinellu, a ddarparwyd gan amrywiaeth o arbenigwyr sydd â phrofiad helaeth yn y maes, na'r argymhellion rydym wedi'u hystyried yn fanwl ac yn ddifrifol wedi cael y gydnabyddiaeth, y dadansoddiad na'r parch y maent yn eu haeddu. Nid yw'r newid sylweddol rydym wedi galw amdano i'w weld yn yr ymateb hwn fel ag y mae. Nid yw'r Llywodraeth hon wedi ymateb i'n huchelgais â'r uchelgais rydym yn ei ddisgwyl ac yn ei fynnu ganddi. Fel y cyfryw, heddiw, rwy'n gwahodd Ysgrifenyddion y Cabinet i fyfyrio eto ar eu hymateb, ac i ddod yn ôl atom yn gynnar yn ystod tymor yr hydref gydag ymagwedd newydd. Bydd ein pwyllgor wedyn yn defnyddio ein hamser i archwilio'r materion pwysig hyn gydag Ysgrifenyddion y Cabinet gyda'r manylder fforensig y mae'r pwnc pwysig hwn yn ei haeddu.
Nawr, nid wyf yn dymuno dod â fy sylwadau i ben ar nodyn negyddol. Mae ein hadroddiad wedi'i groesawu ar sail drawsbleidiol a thraws-sector. Fe'i croesawyd fel cam pwysig tuag at y newid trawsffurfiol y mae ein plant a'n pobl ifanc yn ei haeddu. Fe'i croesawyd fel rhan allweddol o'r daith bwysig rwyf fi a fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor yn ymrwymedig iddi ac yn benderfynol o'i theithio a'i chwblhau yn y Cynulliad hwn. Fel y dywed ein hadroddiad, dyma bwnc sy'n cyffwrdd â phawb ohonom, a maes lle mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb a gallu i wneud i newid ddigwydd. Nid ydym yn barod i ganiatáu i'r mater hollbwysig hwn gael ei drosglwyddo ymlaen mewn adroddiad etifeddiaeth arall i bwyllgor olynol yn y chweched Cynulliad, gan ddweud, 'Mae angen gwneud mwy.' Mae'r amser wedi dod i ni ddangos cadernid meddwl, a sicrhau'r newid sylweddol rydym ei angen mor ddirfawr.