(Cyfieithwyd) Thomas: 'Pe bai'r athrawon wedi cael ychydig o hyfforddiant, digon i adnabod salwch meddwl—nid oes gwahaniaeth ai iselder neu orbryder rydych yn ei ddioddef, salwch meddwl yw salwch meddwl. O beidio â chael digon o gwsg i boeni am arholiadau, mae'n effeithio ar bawb ohonom.'