Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. £7.2 biliwn o bunnoedd, 6,000 o dderbyniadau brys i'n hysbytai a 300 o fywydau y flwyddyn; dyna yw cost iechyd meddwl bob blwyddyn yma yng Nghymru. Ac rwy'n siŵr fod pawb yn y Siambr hon yn cydnabod difrifoldeb yr angen i fynd i'r afael â'r broblem hon, a'r brys, o gofio nad ydym wedi cael fawr iawn o gynnydd hyd yn hyn ar roi camau ar waith i fynd i'r afael â hyn. Rydym yn gwybod bod tua thri chwarter yr holl achosion o salwch meddwl yn dechrau cyn i'r plentyn gyrraedd eu pen blwydd yn ddeunaw oed, a bod plant o gefndiroedd difreintiedig, neu'r rhai sydd â rhieni sydd â salwch meddwl eu hunain eisoes, yn fwy tebygol o i ddatblygu problemau iechyd meddwl eu hunain. Mae'n glir iawn o waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod angen inni adeiladu mwy o wydnwch yn ystod plentyndod a blynyddoedd yr arddegau, a rhoi camau ar waith ar frys i fynd i'r afael â'r anawsterau y mae llawer o'n pobl ifanc yn eu hwynebu pan fyddant angen gofal mwy arbenigol hefyd. Mae ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' yn nodi'r heriau a'r manylion ac yn darparu llu o argymhellion synhwyrol ac ymarferol i fynd i'r afael â hwy. Cafodd ei groesawu'n unfrydol gan randdeiliaid, ond nid gan Lywodraeth Cymru—neu felly mae'n ymddangos.
Rhaid imi ddweud, nid wyf yn meddwl fy mod wedi gweld un ymateb gan y Llywodraeth, yn yr 11 mlynedd y bûm yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, sydd mor siomedig a hunanfodlon. Saith o argymhellion yn unig a gafodd eu derbyn, gwrthodwyd naw yn llwyr neu'n rhannol, ac o blith y gweddill, a bod yn onest, dylai'r rhai a ddisgrifiwyd fel rhai a dderbyniwyd mewn egwyddor fod wedi'u nodi fel rhai a wrthodwyd, gan nad yw 'derbyn mewn egwyddor' yn ddisgrifiad cywir o'r ymateb a ddarllenasom ar y papur. Nid yw'n syndod felly fod llu o randdeiliaid wedi bod mewn cysylltiad ag aelodau'r pwyllgor ac aelodau eraill o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn cyn y ddadl y prynhawn yma i fynegi eu pryderon. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi llwyddo i uno nid un, nid dau, ond 73 o seicolegwyr i lofnodi un llythyr yn galw am weithredu pob un o'r argymhellion yn ein hadroddiad yn llawn. Mae'r comisiynydd plant wedi dweud bod yr ymateb a ddaeth i law yn gyfle a gollwyd, a dywedodd nad yw'r system bresennol yn ddigonol nac yn gydlynol. Mae'r NSPCC wedi dweud nad yw'n mynd i sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen, ac maent yn hollol gywir. Mae angen inni weld y newid sylweddol hwnnw, ac mae'n drueni mai'r unig newid y mae rhai pobl i'w gweld â diddordeb ynddo yw'r newid sylweddol o un swydd i swydd y Prif Weinidog.
Rwy'n teimlo o ddifrif fod angen i Lywodraeth Cymru rwygo'i hymateb ac ailfeddwl a chynhyrchu rhywbeth sy'n dangos ychydig bach mwy o barch, nid yn unig at y pwyllgor, ond at y rhanddeiliaid a'r unigolion a ddarparodd y dystiolaeth y seiliwyd ein hadroddiad arni. Rydym wedi cael llond bol ar eiriau gwag. Rydym wedi gweld adroddiadau sydd wedi nodi problemau o'r blaen mewn Cynulliadau blaenorol, ac yn anffodus nid ydym wedi gweld gweithredu gan Lywodraeth Cymru, gan Weinidogion olynol, i allu ymdrin â'r heriau. Gwelsom arferion da yn y dystiolaeth a gawsom—arfer da ar adeiladu gwydnwch iechyd meddwl yn ein hysgolion. Ysgolion megis Ysgol Pen y Bryn yn fy etholaeth fy hun a'u rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar—cyfle gwych a gyflwynwyd gennym ac yr awgrymwyd y dylid ei gyflwyno ymhellach mewn ysgolion eraill. Eto i gyd, roedd eich ymateb i argymhelliad 3 yn hunanfodlon, yn annigonol, ac yn awgrymu mwy o'r un peth a dim mwy na hynny. Roedd hefyd yn awgrymu eich bod eisoes yn gwneud y pethau a oedd yn angenrheidiol. Nid yw hynny'n wir.
Rydych wedi gwrthod argymhelliad 9 a rhan o'n hargymhelliad 11, sy'n galw am bethau syml megis casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd ar amseroedd aros iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi gofyn am asesiad ac ymyrraeth, mewn gofal sylfaenol neu ofal eilaidd. Mae'n waradwyddus—yn gwbl warthus—fod yr argymhellion hynny wedi'u gwrthod, ac mae'n awgrymu diffyg blaenoriaeth i'n plant a'n pobl ifanc yma yng Nghymru. Oni bai ein bod yn cael y data hwnnw, nid ydym yn mynd i allu dwyn pobl i gyfrif. Ac nid yw'n syndod fod gan sefydliadau fel bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dros 1,000 o bobl ifanc, mwy na'r holl fyrddau iechyd eraill yng Nghymru gyda'i gilydd, ar restrau aros ers dros flwyddyn, yn aros i gael asesiadau ac yn aros i gael triniaeth ar gyfer eu problemau gofal eilaidd acíwt mewn iechyd meddwl. Mae'n gwbl annerbyniol. Ac er mwyn y 1,000 o unigolion yng ngogledd Cymru, ac eraill o amgylch y wlad, mae angen inni weld y newid sylweddol y mae ein hadroddiad yn cyfeirio ato.
Felly, credaf y dylem roi'r ymateb penodol hwn mewn man lle nad yw'r haul yn disgleirio, y peiriant rhwygo papur, a meddwl am rywbeth llawer gwell yn unol â dymuniadau'r pwyllgor, gan mai dyna'r unig beth rydym yn mynd i weld unrhyw newid yn ei gylch.