Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
A gaf i jest ddweud ar y cychwyn fy mod i a'm plaid i yn cytuno gyda phrif argymhellion y pwyllgor yma? Wrth gwrs, y prif argymhelliad yw bod y mater yma yn dod yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig. Nawr, mi glywon ni gyfeiriad at adroddiadau blaenorol y pwyllgor—adroddiad yn ôl yn 2014, er enghraifft, a arweiniodd at beth newid o safbwynt gofal yn y maes yma. Ond mae angen nawr i ni fynd i'r lefel nesaf, ac mae'r ystadegau yn mynnu hynny. Rydym ni wedi clywed rhai yn barod. Yn 2017, er enghraifft, mi welodd Childline Cymru 20 y cant o gynnydd yn nifer y galwadau ynghylch hunanladdiad. Yn y 12 mis i fis Hydref 2016, mi gafwyd 19,000 o atgyfeiriadau at wasanaethau CAMHS yng Nghymru—3,000 yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Felly, mae problemau lles emosiynol a iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn tyfu ac mae angen pwyslais newydd, pwyslais didrugaredd, ar ochr ataliol y llwybr gofal—lles emosiynol, gwydnwch ac ymyrraeth gynnar. Rydym ni wedi clywed am y canol coll—y missing middle yma—ac os nad yw'r Llywodraeth yn cyflwyno y newid trawsnewidiol y mae'r pwyllgor eisiau'i weld, mi fydd y gwasanaethau ar frig y sbectrwm yn mynd yn gwbl anghynaladwy oherwydd nid fydd modd 'cope-io' gyda'r niferoedd a fydd yn galw am y gwasanaethau.
Ni all ysgolion, wrth gwrs, ddim ysgwyddo'r her yma ar eu pennau eu hunain. Dyna pam rydym am weld dull cyflawni systemau cyfan—whole-systems approach—lle mae plant, pobl ifanc, ysgolion, gofal cymdeithasol, iechyd a'r sector wirfoddol i gyd yn cyd-dynnu ac yn cydweithio i ddarparu'r gwasanaeth a'r gefnogaeth orau posib. Tra bod uchelgais y pwyllgor yn glir—bod angen y gweithredu trawsnewidiol yna—mae'n rhaid dweud bod ymateb y Llywodraeth, fel y dywedais i ddoe wrth y Prif Weinidog, yn llipa, yn hunanfodlon ac yn gwbl annigonol. Mae yn siom, ac rwy'n rhannu siom Aelodau eraill bod cyn lleied o'r argymhellion wedi eu derbyn a bod cynifer wedi'u derbyn mewn egwyddor, ac, yn wir, bod cynifer wedi'u gwrthod. Gwrthodwyd, er enghraifft, yr argymhelliad y dylid mapio argaeledd staff nad ydyn nhw yn addysgu mewn ysgolion ond sydd yna i gefnogi iechyd a lles emosiynol. 'O, cyfrifoldeb awdurdodau lleol a byrddau iechyd yw hynny', meddai'r Llywodraeth. Wel, pasio'r buck yw hynny, oherwydd mae hon yn broblem genedlaethol a rôl Llywodraeth yw cymryd y darlun cenedlaethol yna i ystyriaeth. Mwy o ddata ar gael a mwy o wybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â sut mae byrddau iechyd yn gwario eu harian ar wasanaethau iechyd meddwl i blant—yn cael ei wrthod. Mae hwnnw'n dweud rhywbeth am dryloywder, buaswn i'n dweud, hefyd.
Fe argymhellodd y pwyllgor bod angen sicrhau bod pawb sy'n gofalu am blant a phobl ifanc yn cael hyfforddiant ym maes ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ac yn gallu cyfeirio pobl wedyn, neu deimlo'n fwy hyderus ynglŷn â chyfeirio pobl ifanc, at wasanaethau eraill. Sawl gwaith clywsom ni, fel pwyllgor, staff ysgolion yn dweud nad ŷn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw wedi ymbweru i fedru ymateb i'r hyn yr oedden nhw'n pigo i fyny arno fe yn yr ystafell ddosbarth? Yn wir, maen nhw'n cael eu llethu gan yr achosion yma ac mae angen help arnyn nhw, ac ar y gweithlu ehangach. Mae'r cwricwlwm, wrth gwrs, yn mynd i gyfrannu, ond fel rwy'n dweud, mae yna weithlu ehangach sylweddol.
Mae yna bwynt arall, rwy'n meddwl, yn fan hyn, sydd wedi dod fwyfwy i'r amlwg. Yn amlwg, mae Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion yn rhannu'r cyfrifoldeb am hyn ac mae hynny'n gallu bod yn gryfder ar adegau, ond yn amlwg, rwy'n ofni, mae'n gallu bod yn wendid hefyd ar adegau, oherwydd y peryg yw bod neb yn gyrru'r mater yma—bod neb yn cymryd perchnogaeth ac yn rhoi momentwm wedyn i'r ymdrech o fynd i'r afael â'r broblem. O ganlyniad, mae 'derbyn mewn egwyddor' yn dod yn rhyw fath o ymateb default sydd, i bob pwrpas, yn golygu 'busnes fel arfer' ac nid newid trawsnewidiol. Rwy'n cefnogi'r sylwadau a wnaeth y Cadeirydd a'i beirniadaeth hi o'r Llywodraeth—mae e'n fethiant amlwg yn fy marn i, yn yr achos yma. Mi wnes i awgrymu ddoe, os ydym ni o ddifrif ynglŷn â rhannu cyfrifoldebau ar draws Llywodraeth, yna dylem ni fod yn edrych ar arweinydd y Llywodraeth i fod yn gyrru hwn, fel yr unig berson, buaswn i'n meddwl, sydd â statws digonol i sicrhau bod hwn yn wirioneddol yn flaenoriaeth genedlaethol.
Yn fyr, i gloi, rwyf jest eisiau sôn am un cynllun penodol yr wyf fi wedi dod ar ei draws e. SAP yw'r acronym—student assistance programme. Rhaglen yw e i blant a phobl ifanc rhwng pedwar ac 19 oed. Mae'n cael ei weithredu ar hyn o bryd yn ysgolion Wrecsam, lle mae plant yn dod at ei gilydd i siarad am eu teimladau a'u problemau er mwyn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Maen nhw'n cael eu cyfeirio at wasanaethau os oes angen hefyd. Mae grwpiau o gyfoedion yn dod at ei gilydd, maen nhw'n cwrdd yn wythnosol mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, ac mae e'n caniatáu adnabod y problemau rydym yn sôn amdanyn nhw'n gynnar. Mae wedi cael—