Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Rwyf am ganolbwyntio'n bennaf, os caf, Ddirprwy Lywydd, ar Carillion, behemoth o gwmni llawn ysgogiad a âi ati'n ymosodol i hel contractau Llywodraeth a sector cyhoeddus cymhleth, gan edrych bob amser am y cytundeb nesaf i dalu costau'r cytundeb diwethaf. Câi ei gynnal gan Lywodraeth a ddaliodd ati i ddyfarnu contractau gwerth miliynau o bunnoedd iddo ymhell wedi i'r ysgrifen ymddangos ar y mur, gan achosi niwed i'r gadwyn gyflenwi fel y nododd eraill y prynhawn yma. A phan syrthiodd y tŵr o gardiau yn y diwedd, gadawodd cwymp Carillion stori ddigalon o gyfarwydd yn ei sgil am gyfarwyddwyr na ellid mo'u cyffwrdd, gweithlu wedi'i ddinistrio, pensiynau wedi'u colli a methiannau busnesau eraill a oedd wedi dibynnu ar Carillion am eu bywoliaeth. Ddirprwy Lywydd, mewn llai na 30 eiliad bob un, rwyf am redeg drwy'r 10 o wersi y credaf y gellid eu dysgu o'r profiad hwn, fel yr awgryma'r cynnig. Yn gyntaf oll, er bod yna fethiannau personol gwirioneddol fel y nododd Lee Waters yn glir, mae gwersi go iawn yr adroddiadau'n ymwneud â methiant sefydliadol: methiant gan y cwmni, methiant gan y gwahanol gyfundrefnau rheoleiddio niferus a luniwyd i atal y methiannau hynny rhag digwydd yn y lle cyntaf. Gallwn ddysgu'r gwersi go iawn drwy edrych ar y methiannau sefydliadol hynny.
A'r ail wers o hynny, o ran llywodraethu corfforaethol, yw bod angen inni ddiwygio dyletswyddau cyfarwyddwyr i wneud hyrwyddo llwyddiant hirdymor y cwmni'n brif ddyletswydd i'r cyfarwyddwyr hynny, yn hytrach na mynd ar drywydd buddiannau tymor byr un grŵp yn unig sy'n berthnasol i'r cwmni hwnnw—y cyfranddalwyr. Yn sicr, mae mynd ar drywydd gwerth cyfranddaliadau wedi bod yn un o'r ffactorau mwyaf llesteiriol yn y ffordd y mae cwmnïau Prydeinig wedi cael eu rhedeg dros y degawd a mwy diwethaf. Dyna pam y mae'r TUC a fy mhlaid yn dadlau y dylid gosod gweithwyr-gyfarwyddwyr ar fwrdd cwmnïau gyda mwy na 250 o weithwyr er mwyn dangos bod mwy nag un buddiant yn y fantol yn y ffordd y gweithredir y cwmnïau hynny.
Yn y bedwaredd wers, dywedwn y dylai hawliau llywodraethu corfforaethol buddsoddwyr fod yn destun cyfnod ddwy flynedd fan lleiaf o gydberchnogaeth, fel arall rydym yn agored i'r math o weithgarwch ag a welsom pan gafodd GKN ei drosfeddiannu gan gais gelyniaethus gan Melrose, tynnwr asedau tymor byr, lle roedd y bobl a bleidleisiodd dros dynnu GKN i'r berchnogaeth honno yn gyfranddalwyr tymor byr a bentyrrodd i mewn ar y funud olaf, gan brynu cyfranddaliadau a phleidleisio o blaid y trosfeddiant yn y gobaith o enillion hapfasnachol a llenwi eu pocedi o elw'r cytundeb. Bu tawelwch rhyfedd o feinciau'r Ceidwadwyr yn ystod y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, ond gadewch imi ddyfynnu un o'u plith yn San Steffan, sef Robert Halfon, pan ddisgrifiodd hyn fel 'cyfalafiaeth y lleidr-farwn ar ei waethaf'. A gallwn wneud yn well na hynny.
Mae fy mhumed wers yn ymwneud â'r gweithdrefnau archwilio, cyfrifo ac adrodd, a nodwyd yn arbennig gan Jenny Rathbone. Ni ddylid caniatáu i gwmnïau archwilio gymryd rhan mewn contractau ar gyfer gwasanaethau busnes eraill gyda'u cleientiaid. Mae'n eu rhoi mewn sefyllfa gwbl ffug. Roedd pob un o'r pedwar cwmni archwilio mawr yn gweithio i Carillion mewn rhyw fodd ar ryw adeg neu'i gilydd, ac fel y dywed y Financial Times, nid yw system lle mae gennym rhy ychydig o gwmnïau i fethu yn un sydd o fudd i'r cyhoedd.
Mae'r chweched a'r seithfed wers yn ymwneud â thryloywder ac atebolrwydd. Credwn y dylai pob darparwr gwasanaeth cyhoeddus orfod darparu manylion ynglŷn â chadwyni cyflenwi, perchnogaeth cwmnïau a strwythurau llywodraethu er mwyn i'r cyhoedd gael cipolwg ar beth sy'n digwydd.
Rydym yn credu, yn seithfed, fel y dywedodd Lee Waters, fod angen i ddulliau caffael gael eu llywio gan werth, nid pris yn unig. Yn yr wythfed wers, mae angen inni ailfeddwl am gyfraith cwmnïau er mwyn mynd i'r afael â'r atebolrwydd cyfyngedig a ddarparir i gyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig. Mae The Guardian wedi dadlau y byddai awgrymu cam o'r fath 'yn gyrru ias drwy ystafelloedd byrddau gweithredol'—a ias iach a phwrpasol ar hynny.
Mae atebolrwydd cyfyngedig i fod i annog entrepreneuriaeth. Yn achos Carillion ymddengys ei fod wedi creu perygl moesol.
Gwahoddodd gyfarwyddwyr i weithredu'n ddi-hid am eu bod yn gallu osgoi unrhyw ganlyniadau personol yn sgil eu gweithredoedd.
Ymlaen at y ddwy wers olaf, ac yn fyr iawn, Ddirprwy Lywydd, yn gyntaf oll, mae angen inni ymdrin â'r anhawster sylfaenol a achosir pan fo Llywodraethau'n rhoi gwaith ar gontractau allanol a hynny'n unig am ei fod yn symud dyledion oddi ar fantolen y Llywodraeth. Ymdrech gosmetig yn unig ydyw, a dylid dileu'r arfer drwy newid y ffordd y mae Llywodraeth yn cyfrifyddu contractau.
Yn olaf, ac yn fwyaf oll, Ddirprwy Lywydd, y wers y credaf ein bod yn ei dysgu o'r profiadau hyn yw'r un y dechreuodd Lee Waters â hi, sef y dylid cynllunio gwasanaethau cyhoeddus, a'u hariannu, eu rhedeg a'u gwerthuso gan y sector cyhoeddus, gyda chyfranogiad democrataidd fel mai budd y cyhoedd ac nid elw preifat sydd wrth wraidd y ffordd y caiff ein gwasanaethau cyhoeddus eu rhedeg.