– Senedd Cymru am 4:39 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Eitem 6 ar yr agenda yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar Carillion a Capita. Galwaf ar Lee Waters i wneud y cynnig. Lee.
Cynnig NDM6740 Lee Waters, Jane Hutt, Jenny Rathbone, Mick Antoniw, Mike Hedges, Simon Thomas, Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad ymchwiliad ar y cyd Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Phwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin ar y gwersi i'w dysgu yn sgil methiant Carillion.
2. Yn cydnabod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar sut y mae GIG Lloegr yn rheoli'r contract gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gyda Capita.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad o'r gwersi i Gymru o'r ddau adroddiad hyn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn awyddus i dynnu sylw'r Cynulliad at y ddau adroddiad hwn, a gyhoeddwyd un ar ôl y llall yn gyflym, ar adeg y credaf fod gan Gymru ddewisiadau hollbwysig i'w gwneud. Mae'r cyntaf, a gyhoeddwyd ar y cyd gan Bwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Phwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin ar 6 Mai eleni, yn agor gyda'r paragraff moel hwn:
Roedd cynnydd a chwymp aruthrol Carillion yn stori o ryfyg, balchder a thrachwant. Ei fodel busnes oedd yr ysfa ddi-baid i wneud arian, wedi'i yrru gan gaffaeliadau, cynnydd mewn dyledion, ehangu i farchnadoedd newydd a manteisio ar gyflenwyr. Cyflwynodd gyfrifon a oedd yn camliwio realiti'r busnes, a chynyddodd ei ddifidend bob blwyddyn, doed a ddelo. Roedd rhwymedigaethau hirdymor, megis cyllid digonol ar gyfer ei gynlluniau pensiwn, yn cael eu trin gyda dirmyg. Hyd yn oed wrth i'r cwmni ddechrau ymddatod yn gyhoeddus iawn, roedd sylw'r bwrdd ar gynyddu a diogelu bonysau hael i'r swyddogion gweithredol. Roedd Carillion yn anghynaliadwy. Nid y ffaith ei fod wedi mynd i'r wal sy'n ddirgelwch, ond y ffaith iddo bara mor hir.
Cyhoeddwyd yr ail adroddiad rwyf am dynnu sylw'r Cynulliad ato y diwrnod ar ôl yr adroddiad ar yr ymchwiliad i Carillion, ac fe'i lluniwyd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae'n nodi methiant llwyr ar ran y GIG yn Lloegr a Capita i ddeall y gwasanaethau yr oeddent yn ceisio'u trawsnewid. Yn un o'i gasgliadau mwyaf syfrdanol, mae'r adroddiad yn dweud y gallai bywydau fod wedi'u rhoi mewn perygl yn y ffordd garbwl y cyflawnwyd swyddogaethau corfforaethol y GIG, ac roedd yn ffodus na ddigwyddodd hynny. Yng Nghymru, rydym wedi mynd ati'n rhagweithiol i osgoi cyfranogiad dwfn y sector preifat yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ond rydym wedi bod yn bragmatig. Wedi'r cyfan, nid ydym yn elyniaethus tuag at y sector preifat—mae llawer y gall gwasanaethau cyhoeddus ei ddysgu o'u cymhelliant a'u harloesedd—ond rydym yn glir fod gwasanaethau cyhoeddus yno i wasanaethu'r cyhoedd, ac nid y cyfranddalwyr. Mae'r gwerthoedd hyn yn ganolog i'r rheswm dros eu creu, a'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.
Cyfeiriwyd at ddatganoli fel labordy polisi, gan ganiatáu i wahanol rannau o'r DU ddilyn cyfeiriadau polisi gwahanol ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Yn yr ysbryd hwnnw, mae'r cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad o'r gwersi i Gymru o'r ddau adroddiad hwn. Gan ddechrau yn gyntaf gydag adroddiad Carillion, yr hyn a'm trawodd oedd nid yn unig y diwylliant corfforaethol pwdr, ond methiant llwyr rhwystrau a gwrthbwysau mewnol ac allanol a oedd i fod wedi'u cynllunio i atal camymddygiad o'r maint hwn. O KPMG, Deloitte a Ernst & Young—tri o'r pedwar cwmni cyfrifyddiaeth mawr, sydd gyda'i gilydd yn monopoleiddio'r farchnad archwilio a 'ffioedd proffidiol' yn cael eu talu i bob un ohonynt, yng ngeiriad yr adroddiad, yn gyfnewid am eu 'bathodynnau o hygrededd'—i weithredodd unigol y cadeirydd, y cyfarwyddwr cyllid, y prif weithredwr, y Rheoleiddiwr Pensiynau a'r Cyngor Adrodd Ariannol, fel y mae'r adroddiad ei hun yn dweud, tyfodd Carillion yn fom corfforaethol enfawr ac anghynaliadwy sy'n tician yn yr amgylchedd rheoleiddiol a chyfreithiol sy'n dal mewn bodolaeth heddiw.
Rhaid inni fynd ati'n rhagweithiol i fynd i'r afael ag amgylchedd lle mae cwmnïau fel Carillion a Capita wedi gallu ffynnu ynddo. Yn yr un modd, mae'r adroddiad ar ddarparu gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gan Capita yn nodi byrbwylltra canoli gwasanaethau wedi'i ysgogi gan gost yn hytrach na chanlyniadau—gwasanaethau a gâi eu rhoi ar gontract allanol cyn i unrhyw un o'r cymhlethdodau gael eu deall yn iawn. Yn amlwg, mewn ymgais i arbed arian, llamodd y GIG yn Lloegr yn rhy fuan at fodel darparu a oedd o'i hanfod yn anaddas, a rhoi'r gwaith yn nwylo contractwr preifat wedyn. Gyda rhywbeth mor bwysig ag iechyd, gallai'r canlyniadau fod yn enbyd. Yn ffodus, yn yr achos hwn, mae'n ymddangos bod y canlyniadau gwaethaf posibl wedi cael eu hosgoi, ond mae gwaith ar glirio'r goblygiadau gweddilliol yn dal i fynd rhagddo. Mae angen inni fod yn ddoeth ynglŷn â'r ddau fater: sut y gall pwysau acíwt ar gyllidebau olygu y gallai penderfyniadau gael eu gwneud ar frys a heb feddwl clir ymlaen llaw, a'r angen i fynd i'r afael ag annigonolrwydd ein system gaffael sydd wedi caniatáu i'r cwmnïau monolithig hyn dra-arglwyddiaethu. A rhaid inni wneud hyn wrth inni lywio drwy rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cenhedlaeth: Brexit ac awtomatiaeth.
Rwyf wedi sôn ar sawl achlysur am y pwysau ariannol a wynebir gan gynghorau a'r atyniad y bydd hyn yn ei gyflwyno i gwmnïau yn y sector preifat sy'n barod iawn i gynnig ffyrdd o awtomeiddio swyddi a gwasanaethau er mwyn rhyddhau adnoddau, heb ddeall natur gymhleth y gwasanaethau a ddarparir, a heb fawr o ystyriaeth i'r canlyniadau os aiff pethau o chwith. Gallwn weld hynny'n digwydd eisoes mewn rhai rhannau o Gymru. Er enghraifft, mae Capita eisoes yn darparu canolfan gyswllt ac ystafell reoli gweithrediadau ar gyfer Heddlu De Cymru, sy'n cyflogi gwasanaethau wedi'u hawtomeiddio, i bob golwg, a dyfynnaf, er mwyn helpu i gyflymu'r broses benderfynu ar gyfer y rhai sy'n ateb galwadau a gwella amseroedd ymateb cyffredinol i ddigwyddiadau drwy wneud hynny.
Ni allaf ond meddwl mai ieithwedd cysylltiadau cyhoeddus am dorri costau yw hyn. Os parhewn i ganiatáu i awtomeiddio gael ei yrru gan elw yn y sector preifat, nid oes ond un pen draw yn bosibl. Os ydym yn caniatáu i'r dull hwn wreiddio, bydd yr holl sôn am awtomatiaeth yn cael ei weld gan y gweithlu fel rhywbeth sy'n cael ei yrru gan doriadau, ac nid oes angen iddo gael ei weld felly. Os ydym yn harneisio awtomatiaeth, gallwn ddefnyddio dyfeisiau arbed llafur newydd i ryddhau staff i weithio ar y rheng flaen, er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Dyna'r ddadl sydd angen inni ei chael. Ac mae angen i'r Llywodraeth grynhoi ei hadnoddau, drwyddi draw, ar gyfer wynebu'r modd y gallwn ddefnyddio'r technolegau newydd hyn i'n helpu gyda'r problemau y gwyddom fod yn rhaid inni fynd i'r afael â hwy.
Er nad ydym wedi gadael i Carillion a Capita sugno'r holl gontractau cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus i'r un graddau ag yn Lloegr, yr ail wers o'r adroddiadau hyn sy'n rhaid inni ei chrybwyll yw ein bod yn ymwybodol iawn fod angen trawsnewid ein prosesau caffael. Mae'r ymgyrch i leihau costau gweinyddol, ynghyd â phrinder sgiliau caffael, wedi cyfyngu ar allu llywodraeth leol yng Nghymru i ailstrwythuro arferion caffael, ac mae wedi arwain at dra-arglwyddiaeth cwmnïau mawr wedi'u preifateiddio. Fodd bynnag, bydd trawsnewid strategaeth gaffael yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau cyhoeddus symud oddi wrth y dull confensiynol trafodaethol tuag at adeiladu capasiti. Bydd angen iddynt ddod yn bartneriaid mewn arferion caffael, nid prynwyr nwyddau a gwasnaethau unwaith yn unig. Bydd angen cymorth sylweddol ar gyfranogwyr ar ddwy ochr y dull newydd hwn o gontractio. Bydd gweithredu i gryfhau'r economi sylfaenol ac ymdrechion i ddefnyddio polisi caffael i gefnogi cynhyrchwyr lleol yn helpu i unioni'r dra-arglwyddiaeth hon. Mae'r strategaeth economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn siomedig yn hyn o beth.
Er bod effaith economaidd Brexit yn debygol o fod yn ddwys—a rhaid i ni beidio â bychanu hyn—gallai roi diwedd ar ein rhwymedigaethau i ddilyn rheolau caffael yr UE, yn dibynnu ar delerau cytundebau masnach yn y dyfodol. Gallai hyn roi cyfle delfrydol i lunio ein llyfr rheolau ein hunain ar brynu nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn caniatáu inni hollti contractau cyfyngus o fawr a gwella cefnogaeth i gwmnïau lleol.
Mae'r adroddiadau hyn yn rhybuddio'n glir am beryglon dibynnu ar fonolithau corfforaethol rhy-fawr-i-fethu sy'n rhoi elw o flaen y budd cyhoeddus. Mae datganoli yn caniatáu inni ddysgu gwersi gan eraill, felly gadewch inni wneud hynny. Diolch.
A gaf fi gymeradwyo anerchiad agoriadol Lee Waters yn y ddadl hon a'i gymeradwyo hefyd am fod yn bennaf gyfrifol am gyflwyno'r ddadl hon ger ein bron? Roeddwn yn mynd i ganolbwyntio ar gyflawniad, neu ddiffyg cyflawniad, Capita mewn perthynas â'r adroddiad hwnnw gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr ynghylch prynu gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gan gyflenwyr allanol, neu bartneriaethau cydwasanaethau GIG, fel rydym yn eu galw yma yng Nghymru.
Nawr, mae ymarfer cyffredinol yn endid hynod gymhleth sy'n anodd i unrhyw un nad yw'n feddyg teulu ddeall beth sy'n digwydd, ac mae'n anodd i feddygon teulu egluro i unrhyw un arall sut y mae'n gweithio. Felly, dyma ni—ond dyna oedd un o'r problemau gyda'r contract Capita: nid oeddent yn deall cymhlethdod yr holl beth, gan fod meddygon teulu, ar y cyfan, yn gontractwyr annibynnol sydd dan gontract gyda'r GIG yn unig yn y bôn. Felly, o'i roi'n syml, mae'r GIG yn talu i bractisau meddygon teulu yn ôl nifer y cleifion sydd ganddynt, ac yn y bôn, yr hyn y maent yn tueddu i'w wneud i'r cleifion hyn, pa wasanaethau y maent yn darparu ar eu cyfer, faint sy'n cael eu himiwneiddio a phethau. Cânt eu cytuno drwy amrywiaeth o ganllawiau fframweithiau ansawdd a chanlyniadau cymhleth, i ddarparu gwasanaethau ar gyfer canser cronig, diabetes, clefyd y galon. Caiff yr holl fath hwnnw o ddarpariaeth gwasanaeth ei gyfrifo'n fanwl, glaf wrth glaf. Mae'n hynod o gymhleth, ac mae'n mynd yn ôl at y cymorth gofal sylfaenol lleol, neu bartneriaeth cydwasanaethau'r GIG, sy'n ymdrin â'r rhwymedigaeth gytundebol honno. Felly, maent wedyn yn rhoi swm go fawr o arian i'r ymarfer cyffredinol unigol. O'r arian hwnnw sy'n cyrraedd y practis, mae'r meddygon teulu annibynnol dan gontract wedyn yn cyflogi rheolwr practis i redeg y practis. Maent yn cyflogi staff derbynfa, maent yn cyflogi meddygon teulu cyflogedig a nyrsys practis eraill ac ar ôl yr holl gyflogaeth, maent yn rhannu'r gweddill fel cyflog net fel y'i gelwir ar gyfer pob un o ymarferwyr y practis. Mae'n hynod gymhleth, ac ymdrinnir â hyn oll gan y gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol, sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phractisau unigol.
Mae yna gannoedd o feddygon teulu, caiff ein cleifion eu monitro’n unigol, cofrestriadau cleifion unigol, gadael a mynd—mae'n anhygoel o gymhleth, ond nid yw'n dod i ben gyda phractisau meddygon teulu yn unig. Maent yn cyflawni'r un dadansoddiad manwl ar gyfer fferyllwyr, optegwyr a deintyddion. Felly, mae'r cymorth busnes, os mynnwch, ar gyfer ymarfer gofal sylfaenol yn anhygoel o gymhleth. Mae wedi esblygu dros genedlaethau ac mae'r bobl mewn partneriaethau cydwasanaethau, cymorth busnes gofal sylfaenol yng Nghymru, yn anhygoel o brofiadol, ac fel arfer maent wedi bod yno ers amser hir iawn ac maent yn adnabod y busnesau tu chwith allan. Dyna ymarfer cyffredinol, dyna fferylliaeth, dyna optometreg a deintyddiaeth—mae gan bob un ei gymhlethdodau unigol. Ni allwch ei becynnu gyda'i gilydd i greu pecyn bach cyfleus a syml i'w osod ar gontract allanol a'i gysylltu â phractisau eraill tebyg, oherwydd mae'r holl bractisau meddygon teulu neu fferyllwyr—maent yn endidau unigol gyda gwahanol bobl, anghenion gwahanol.
Felly, mae'n anhygoel o gymhleth, mae pob practis yn wahanol. Caiff degawdau o brofiad ei sgubo ymaith felly, pan benderfynwyd gosod y math hwnnw o elfen gymorth busnes ar gontract allanol yn Lloegr—ei osod ar gontract allanol i Capita, ac fel y clywsom gan Lee Waters, gyda chanlyniadau trychinebus y gellid eu rhagweld. Rwy'n dyfynnu o'r adroddiad nawr, mae ymhell islaw safon dderbyniol.
Oherwydd os oes manylyn bach yn mynd o'i le, mae'n tarfu ar weithrediad esmwyth llawer o bractisau neu gall danseilio'n llwyr, am ychydig ddyddiau, y ffordd y caiff y practis unigol ei weithredu, wrth i rywbeth fynd o'i le. Ac unwaith eto, fel y mae'r adroddiad yn dweud, camfarnodd y GIG yn Lloegr a Capita, ill dau, raddfa a natur y perygl o osod gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol ar gontract allanol. Do, fe wnaethant, fel y gwnaiff pawb nad yw'n deall cymhlethdod aruthrol gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig. Felly, rwy'n dweud: cadwch y GIG yn ei holl ffurfiau'n gyhoeddus. Mae gosod gwasanaeth cyhoeddus cymhleth ar gontract allanol preifat yn sicr o fynd o chwith. Cefnogwch y cynnig.
Roeddwn yn bwriadu siarad am Capita, ond mae clywed yr enw'n fy atgoffa o'r cyfarfod a gafodd Jane Hutt a minnau y bore yma gyda dioddefwyr, yn bennaf, yn sgil mewnblaniadau rhwyll drwy'r wain, a oedd, yn ddigymell, yn gwbl gynddeiriog ynglŷn â rôl Capita ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau yn asesu'r bobl hyn i weld a oeddent yn dal i fod yn gymwys i gael lwfans mynychu yn ogystal â budd-daliadau anabledd eraill ai peidio, a gwrthodiad Capita i ganiatáu'r urddas i bobl gael asesiad yn eu cartref. Dyma bobl sy'n dioddef o anymataliaeth, ac mae llawer ohonynt yn cerdded gyda ffyn baglau oherwydd bod ganddynt broblemau ychwanegol gyda'u cefn a phroblemau symudedd. Ac oherwydd eu bod wedi ymdrechu i gyrraedd cyfarfod ynghanol Caerdydd gyda Capita, barnwyd felly nad oeddent yn gymwys i gael lwfans symudedd. Anhygoel. Mae hyn yn hollol groes i'r gwasanaeth cyhoeddus sydd gennym yma yng Nghymru.
Beth bynnag, mae'r prif sylwadau roeddwn eisiau eu gwneud yn ymwneud â phwy sy'n archwilio'r archwilwyr, gan mai'n anaml y caiff ei ofyn, ac yng nghyd-destun Carillion, mae angen ei ofyn. Oherwydd archwiliadau da yw conglfaen marchnadoedd ariannol teg a thryloyw a phenderfyniadau busnes da, ac mae'r system hon o archwilio gwariant cyhoeddus yn dyddio'n ôl dros fwy na chanrif. Pam y dylem orfod darllen rhwng y llinellau i ganfod beth y mae'r archwilwyr yn ei feddwl mewn gwirionedd? Maent wedi datblygu cod ar gyfer galluogi'r bobl ar y tu mewn, y rhai sy'n gwybod, i sylweddoli efallai fod rhywbeth amheus yn digwydd, ond nid y darpar fuddsoddwr cyffredin, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Rhaid inni sicrhau bod archwilwyr yn fwy atebol am eu gweithredoedd oherwydd methiant enfawr Carillion, lle roedd eu gwaith cyhoeddedig mewn gwirionedd yn ffuglen lwyr.
Yn rhyfeddol, ceisiodd KPMG ddadlau nad oedd ei annibyniaeth wedi'i amharu gan 19 mlynedd o archwilio Carillion. Credaf fod hynny y tu hwnt i grediniaeth ac mae angen ei newid. Un o'r ffynonellau uniongyrchol o wrthdaro buddiannau yw bod archwilwyr yn cael eu talu gan y cwmni y maent yn ei archwilio—y bobl y maent i fod i'w plismona. Mae hynny ynddo'i hun yn creu gwrthdaro buddiannau posibl. Mae'r ymchwiliad ar y cyd rhwng pwyllgor gwaith a phensiynau a phwyllgor busnes Tŷ'r Cyffredin i Carillion yn argymell bod y Llywodraeth yn cyfeirio'r farchnad archwilio at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, am fod y pedwar mawr i bob pwrpas yn gweithredu cartél cyfforddus lle mae eu gwaith archwilio yn eilbeth i'w busnes llawer mwy proffidiol yn cynghori cwmnïau, ac fel y gwelwyd gyda Carillion, maent mewn llawer o ffyrdd yn gwrthdaro'n uniongyrchol—y ddau weithgaredd.
Felly, rhaid inni naill ai hollti'r pedwar mawr yn rhagor o gwmnïau archwilio, neu mae'n rhaid inni ddatgysylltu'r canghennau archwilio oddi wrth y gwasanaethau ymgynghorol proffidiol sydd wedi dod i dra-arglwyddiaethu yn y cwmnïau cyfrifyddiaeth hyn, ac mae pob un o'r pedwar wedi ehangu i wneud hyn yn y blynyddoedd diwethaf. Gwaith nad yw'n waith archwilio sy'n gyfrifol am £4 o bob £5 o incwm ffioedd a gesglir gan y pedwar mawr bellach. Felly, gallwch weld bod anghydbwysedd llwyr yn barod. Bydd hyn, rwy'n gobeithio, yn cael cefnogaeth o ystyried y diffyg cystadleuaeth yn y farchnad, yn enwedig i'r cwmnïau mawr. Archwilir 97 y cant uchaf o'r 350 cwmni mwyaf ym Mhrydain gan y pedwar mawr. Mae'r sefyllfa'n gwaethygu, gan fod y pumed cwmni mwyaf, Grant Thornton, wedi dweud nad ydynt yn mynd i dendro am waith archwilio ar gyfer cwmnïau FTSE 100 mwyach oherwydd bod y gost o wneud cais am waith y maent yn annhebygol o'i gael yn rhy fawr.
Nawr, fe ymchwiliodd y Comisiwn Cystadlu, a ragflaenai'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, i'r diffyg cystadleuaeth ym maes archwilio rhwng 2011 a 2013, ond diystyrodd y syniad o hollti'r pedwar mawr. Un o'r rhesymau a roddwyd ganddynt oedd bod angen i archwilwyr fod yn fawr am eu bod yn ysgwyddo atebolrwydd diderfyn am eu hargymhellion. Ond mae'r ffioedd sydd ar gael yn annhebygol o fod yn werth digon i wneud i gwmnïau archwilio bach fod eisiau ysgwyddo risg cyfrif archwilio mawr.
Rydym wedi gweld yn y gorffennol nad yw bod yn fawr yn diogelu sefydliadau rhag mynd i'r wal. Cofiwch fod pum cwmni mawr yn arfer bodoli, ac aeth Arthur Andersen i'r wal oherwydd eu methiant i archwilio Enron yn briodol. Credaf fod yna beryglon anferth i Lywodraeth Cymru o beidio â gwneud dim, oherwydd gadewch inni gofio mai Abellio oedd un o'r cwmnïau a gymeradwywyd ar y rhestr fer y gellid bod wedi dyfarnu'r contract iddo redeg masnachfraint Cymru a'r gororau, pe na bai Carillion wedi mynd i'r wal yn gynharach, gan eu tynnu allan o'r farchnad. Yn gyffredinol, rwy'n credu—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Ydw, fe ddof i ben drwy ddweud y credaf y gallai hyn, ochr yn ochr â'r methiant i reoli cyflogau anweddus o uchel y cwmnïau mawr iawn, danseilio proses fusnes gyfan y cwmnïau mawr a bellach, mae angen ei diwygio'n sylweddol.
Rwy'n cymeradwyo Lee Waters am gyflwyno'r cynnig hwn gerbron y Cynulliad y prynhawn yma ac am natur gryno a chywir ei araith a'i diagnosis. Roeddwn yn cytuno â phopeth a ddywedodd. Mae hwn yn achos gwrthun. Mae Carillion, sef yr hyn rwyf am ganolbwyntio arno'n arbennig, yn gwmni sydd wedi gadael £7 biliwn mewn rhwymedigaethau wrth iddo fynd i'r wal, a £2 biliwn o hwnnw i gyflenwyr a £2.5 biliwn i'r gronfa bensiwn. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod bod yr achos hwn yn enghraifft o fethiant ar bob lefel. Yn gyntaf ac yn fwyaf amlwg, wrth gwrs, methiant rheoli ar ran y rhai a oedd yn gyfrifol am redeg y cwmni, fel y mae adroddiad y pwyllgor busnes yn Nhŷ'r Cyffredin ei wneud yn glir, gyda methiant y cyfarwyddwyr anweithredol i graffu ar y cyfrifon, a'u methiant i herio'r swyddogion gweithredol corfforaethol a'u methiant llwyr yn eu holl ddyletswyddau. Methodd y prif swyddogion gweithredol corfforaethol reoli'r cwmni gydag unrhyw gymhwysedd o gwbl, na gonestrwydd o bosibl. Mae hynny yn dal i gael ei ymchwilio.
Mae hefyd yn fethiant Llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth rywbeth o'r enw Gwasanaeth Masnachol y Goron, sy'n rhan o Swyddfa'r Cabinet, ac sy'n gyfrifol yn benodol am edrych ar gyflenwyr mawr y Llywodraeth fel Carillion lle y gallai methiant y cwmni beri risg systemig. Nid yw'n glir pam na wnaed dim gan y sefydliad hwnnw yn yr achos penodol hwn i geisio osgoi'r posibilrwydd o drychineb. Ar ôl y rhybudd elw diwethaf y rhoddwyd contract £1.34 biliwn mewn perthynas â HS2 gan y Llywodraeth i Carillion. Felly, roedd llawer o'i le ar lefel lywodraethol yn ogystal.
Y broblem gyda'r Llywodraeth yn glanweithio drwy roi contractau o'r fath i gwmnïau fel Carillion yn yr amgylchiadau yr aeth y cwmni i'r wal ynddynt yw bod cyflenwyr llai, nad oes ganddynt fodd o gyflawni diwydrwydd dyladwy priodol ar y cwmnïau y maent yn bwriadu contractio â hwy, yn cymryd hynny fel rhyw fath o arwydd o drefniant blaenorol, ac felly i bob pwrpas, mae'r Llywodraeth yn cael ei gweld yn annog pobl i wneud busnes gyda hwy er gwaethaf ei methiant ei hun i wneud y diwydrwydd dyladwy na all eraill fforddio ei wneud.
Yn drydydd, wrth gwrs, mae'n fethiant ar ran y rheoleiddwyr. Nid yw hyn yn newydd, a digwyddodd yr argyfwng bancio, a oedd yn broblem lawer mwy systemig na methiant yr un cwmni hwn, er gwaethaf methiant Banc Lloegr, methiant Trysorlys ei Mawrhydi ac unrhyw un arall a oedd yn gyfrifol am reoleiddio'r system. Mae'r syniad y bydd rheoleiddwyr trydedd radd yn llwyddo i reoli bancwyr neu ddynion busnes eilradd, wrth gwrs, yn ffantasi. Mae'r holl sgêm menter cyllid preifat, a ddatblygwyd o dan weinyddiaeth Blair i raddau helaeth, yn enghraifft arall o bobl nad ydynt yn deall beth y maent yn ei wneud yn gosod contractau sydd mor gymhleth, yn aml iawn—mor fawr, fel y nododd Dai Lloyd yn dda iawn funud yn ôl—ac felly mae'r methiant ar y ddwy ochr.
Rwy'n sicr yn cymeradwyo ac yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone yn awr am y sgêm archwilio, lle mae pedwar cwmni mawr i bob pwrpas yn rheoli'r busnes cyfan i gwmnïau mawr fel Carillion. Nid yw hon yn broblem newydd ychwaith. Pan oeddwn yn Weinidog materion corfforaethol chwarter canrif yn ôl, fe wnaeth Terry Smith, sydd wedi hynny wedi dod yn enwog fel rheolwr cronfeydd sector preifat llwyddiannus iawn ac wedi'i ddisgrifio fel y Warren Buffett Seisnig, ysgrifennu llyfr o'r enw Accounting for Growth, a oedd yn chwarae ar eiriau, oherwydd ar y pryd roedd llawer o gwmnïau'n cofnodi proffidioldeb mawr, ond llif arian gwael iawn mewn gwirionedd. Y canlyniad oedd methdaliadau enfawr fel Polly Peck a British and Commonwealth Holdings, y ddau ohonynt yn achosion y bu'n rhaid i mi ymdrin â hwy pan oeddwn yn Weinidog materion corfforaethol. Felly, mae'r problemau hyn yn bodoli ers amser maith ac yn mynd yn ôl ymhell.
Cynyddodd Carillion ei faint yn gyflym drwy sbri wario drwy ddyledion, fel y nodir ar dudalen 14 o adroddiad y pwyllgor busnes, ond yr eitem fwyaf ar fantolen y cwmni oedd ewyllys da, sef wrth gwrs, i bob pwrpas, faint y maent wedi'i ordalu am asedau'r cwmnïau a brynwyd ganddynt. Roedd yr ewyllys da yn £1.57 biliwn. Nid oedd ond £700 miliwn yn unig o ecwiti yn y cwmni mewn gwirionedd, felly roedd yr ewyllys da ddwywaith cymaint â'r arian parod gwirioneddol yn y busnes a fuddsoddwyd gan gyfranddalwyr. Felly, yn amlwg, dylai'r pwynt sylfaenol hwnnw fod wedi canu clychau o'r cychwyn cyntaf.
Y broblem fawr sy'n ein hwynebu yma yw bod gan Lywodraethau wasanaethau wedi'u marchnadeiddio, ond nid ydynt wedi creu marchnadoedd mewn gwirionedd. Mae'r rhan fwyaf o gyfleustodau a breifateiddiwyd wedi dod yn fonopolïau rhanbarthol neu'n oligopolïau. Wrth gwrs, mae gan farchnadoedd go iawn gwsmeriaid yn gwario eu harian eu hunain ar ddewis o ddarparwyr, fel pan fyddwn yn mynd i'r archfarchnad ac yn dewis beth rydym am ei brynu. Yn yr un modd, bydd cwmnïau'n dewis eu cyflenwyr nwyddau, caiff arian ei dalu a chaiff elw ei wneud. Ond mae'r hyn sy'n digwydd mewn gwasanaethau cyhoeddus a farchnadeiddiwyd yn wahanol—dyma'r pwynt diwethaf a wnaf.
Dewisir elusen neu gwmni yn aml o gwmpas cyfyngedig o opsiynau, fel yn yr achos hwn yma lle mae Carillion yn ei ddarparu, a throsglwyddir arian trethdalwyr. Mae darparwyr sector preifat yn gwneud elw ohono, ond drwy gydol y cyfan mae'r trethdalwr ar y bachyn. Os aiff rhywbeth o'i le, mae'r trethdalwr yn talu. Marchnadoedd ffug yw'r rhain ac maent yn ffynnu yng ngwladwriaeth gymdeithasol Prydain. Nid oes unrhyw fecanwaith marchnad go iawn yma, ac mae sectorau marchnad yn ymddangos yn unswydd er mwyn sugno ar deth y Llywodraeth. Ac yn aml iawn bydd y darparwyr hyn yn galw am sicrwydd gan y Llywodraeth y bydd mwy o gontractau i ddod; fel arall nid yw'n werth iddynt wneud cais yn y lle cyntaf hyd yn oed.
Felly, ceir methiant systemig yma ac mae angen rhoi sylw iddo ar bob lefel, ar lefel gorfforaethol ac ar lefel rheoleiddio, yn y sector cyhoeddus ac yn y sector preifat. Felly, credaf fod hon yn ddadl amserol iawn, a gobeithiaf y bydd gwersi'n cael eu dysgu ohoni.
Llanastr Carillion yw'r enghraifft ddiweddaraf o fethiant grymoedd y farchnad a'r polisi preifateiddio a daniodd dwf dilyffethair cwmnïau fel Carillion. Dylid ystyried adroddiadau'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol a chyd-bwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin fel mwy na dadansoddiad o fethiant un cwmni, ond fel datgeliad o'r llygredd economaidd a gwleidyddol sydd wrth wraidd yr hyn a elwir yn economi marchnad rydd. Am y rheswm hwn, mae'r ddadl yn amserol ac yn uniongyrchol berthnasol i'r Cynulliad hwn os ydym i ddilyn llwybr economaidd a chymdeithasol gwahanol, un sy'n hyrwyddo polisi partneriaeth gymdeithasol, yn cydnabod pwysigrwydd y sector cyhoeddus, ac yn cydnabod rôl sylfaenol y Llywodraeth yn darparu a hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol, cyflogaeth foesegol a chydraddoldeb cymdeithasol.
Roedd maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2017 yn datgan,
Nid ydym yn credu mewn marchnadoedd rhydd dilyffethair. Rydym yn gwrthod cwlt unigolyddiaeth hunanol. Rydym yn ffieiddio at raniadau cymdeithasol, anghyfiawnder, annhegwch ac anghydraddoldeb. Ystyriwn fod dogma ac ideoleg anhyblyg nid yn unig yn ddiangen ond yn beryglus.
Ac yn union fel yr ymrwymiad ym maniffesto'r Torïaid i drydaneiddio rheilffyrdd, yn union fel yr ymrwymiad ym maniffesto'r Torïaid i'r morlyn llanw, dyma addewid arall a dorwyd. Dyma dwyll a chelwydd etholiadol arall.
Yn ei lyfr, The Corruption of Capitalism, mae Guy Standing yn egluro sut y daeth cyfalafiaeth fyd-eang yn system wedi'i rigio o blaid plwtocratiaeth—elît sy'n cyfoethogi ei hun, nid drwy gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau, ond drwy berchnogaeth ar asedau, gan gynnwys eiddo deallusol, wedi'u cynorthwyo gan gymorthdaliadau, gostyngiadau treth, mecanweithiau dyled a drysau troi rhwng gwleidyddiaeth a busnes a phreifateiddio gwasanaethau cyhoeddus.
Yn y cyfamser, o'n hamgylch gwelwn gyflogau'n aros yn eu hunfan wrth i farchnadoedd llafur gael eu trawsnewid drwy gontractio allanol, awtomatiaeth a'r economi ar alw. Ac mae stori Carillion yn rhan o'r stori barhaus honno—cwmni sy'n byw oddi ar gaffael cyhoeddus a phreifateiddio ar anel tua'r gwaelod yn barhaus o ran darpariaeth, safonau a moeseg o dan Lywodraeth sydd wedi gwerthu ei henaid i'r farchnad breifat. Gwelwn arwyddion nodweddiadol o hyn gydag obsesiwn difeddwl y Torïaid gyda phreifateiddio'r masnachfreintiau rheilffyrdd aflwyddiannus. Fe'i gwelwn yma gyda'r Torïaid yng Nghymru a'u hobsesiwn â galwadau am ail-breifateiddio maes awyr Caerdydd, a oedd wedi methu dan breifateiddio.
Wrth i Carillion ddechrau gwegian, parhaodd y Cyfarwyddwyr i gynyddu difidendau a bonysau i swyddogion gweithredol, gan drin y gronfa bensiwn gyda dirmyg. Fel y dywedwyd, mae'r adroddiad yn ddamniol. Mae'r canlyniadau'n amlwg, gyda'r trethdalwr yn cael ei adael i dalu cymaint o'r bil ar gyfer glanhau llanastr Carillion, ac mae methiant y system reoleiddio wedi ei waethygu gan yr hyn sy'n ymddangos yn gydgynllwynio rhwng rheoleiddwyr, cyfrifwyr, Llywodraeth, cyfreithwyr a chyfarwyddwyr, ar draul pawb arall yn y pen draw. A bachodd yr archwilwyr amrywiol £72 miliwn. Methodd Llywodraeth y DU gefnogi cynllun a allai fod wedi adennill £364 miliwn gan Carillion. Cafodd y gronfa bensiwn ei hamddifadu a'i gadael gyda rhwymedigaeth bensiwn o oddeutu £2.6 biliwn, miloedd o weithwyr na chafodd eu talu, a gadawyd cwmnïau a chyflenwyr bach i dalu bil o oddeutu £2 biliwn ac mae 27,000 o bensiynwyr bellach yn byw ar bensiynau llai.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae fy rheswm dros gefnogi'r cynnig hwn yn ymwneud nid yn unig â thynnu sylw at Carillion a chwmnïau tebyg, ond ag amlygu'r union system sydd wedi creu bwystfilod fel Carillion a gadael iddynt ffynnu. Yn ogystal â galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad ar y gwersi i Gymru, rhaid inni edrych am ffordd wahanol o wneud busnes, un sy'n cydnabod pwysigrwydd y sector cyhoeddus, yn cydnabod manteision perchnogaeth gyhoeddus a chydweithredu mewn rhai sectorau, yn cydnabod y dylai ein polisi economaidd a'n caffaeliadau gwerth £5 biliwn neu fwy fod yn seiliedig ar safonau busnes moesegol, safonau cyflogaeth moesegol, gwaith teg, diwedd ar ddiwylliant isafswm cyflog, diwedd ar ddiwylliant o hunangyflogaeth orfodol a dim oriau, cydnabyddiaeth o rôl bwysig undebaeth yn cyflawni'r amcanion hyn, a fframwaith gweithredu trosfwaol o gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a ffyniant i bawb.
Yn y system economaidd fyd-eang newydd rydym yn ei chroesawu—system o hyperdechnoleg, awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial—rhaid inni sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o'r gorffennol fod system sy'n seiliedig ar athroniaeth trachwant a chamfanteisio yn sicr o fethu. Rhaid inni ddangos, yng Nghymru, y gallwn wneud pethau'n wahanol, y gallwn wneud pethau'n well, er mwyn busnes, er mwyn gweithwyr ac er mwyn ein cymunedau.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gyflwynodd y ddadl wirioneddol ddiddorol hon y prynhawn yma. Rydym yn canolbwyntio yma, yn gwbl briodol, ar adroddiadau a gynhyrchwyd gan bwyllgorau ein Cynulliad ein hunain neu gan Lywodraeth Cymru. Weithiau, fodd bynnag, mae'r mater dan sylw mor berthnasol i ni fel ei bod yn werth trafod adroddiadau a baratowyd ar gyfer eraill. Mae Carillion a Capita wedi cael presenoldeb yma yng Nghymru. Ni fydd yr adroddiadau a glywsom yn ystod y ddadl yn gadael unrhyw amheuaeth y dylem wrando'n astud ar y gwersi a ddysgwyd o brofiadau mewn mannau eraill.
Ddirprwy Lywydd, bydd gennyf lai i'w ddweud am Capita oherwydd bod y gwersi sydd i'w dysgu o'r adroddiad hwnnw wedi cael ystyriaeth fanwl iawn yma, yn arbennig gan Dr Dai Lloyd, sydd wedi ymdrin â llawer o'r tir y buaswn wedi rhoi sylw iddo fy hun. Credaf y dylem ddweud, yn gyffredinol, fod yr adroddiad yn ein dysgu i ochel rhag bwrw iddi'n ddall ar drywydd arbedion afrealistig ac y dylid edrych yn ofalus iawn bob amser ar yr addewidion a wnaed gan y rhai y mae eu syched am fusnes yn drech na'u hawydd am y gwirionedd.
Dyma gwmni nad oedd ganddo staff, na gwybodaeth na systemau sylfaenol ar waith ar gyfer cyflawni ei rwymedigaethau newydd pan enillodd gontractau gwirioneddol sensitif yn glinigol. Dyma Lywodraeth a ymddangosai fel pe bai'n credu bod gosod gwasanaeth ar gontract allanol hefyd yn ei rhyddhau hi o'i chyfrifoldebau i ddefnyddwyr gwasanaethau a dinasyddion. Awgrymodd Lee Waters nad oes raid iddi fod felly, ond mae Capita yn stori sy'n ein rhybuddio pa mor wael y gall pethau fynd o chwith.
A wnewch chi ildio?
Wrth gwrs, Mark.
Diolch yn fawr iawn, oherwydd mae gennyf lawer o waith achos sy'n gysylltiedig â fy ngwaith grŵp trawsbleidiol a gwaith lleol lle mae pobl a ddylai fod wedi cael eu taliad annibyniaeth personol ar y gyfradd lawn heb ei gael, ond gwyddom mai 60 i 80 y cant o lwyddiant a geir o apelio at yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn enwedig ar gyfer rhai ar y sbectrwm awtistig a'r rhai sydd â nam ar y synhwyrau. Y broblem yw methiant i ddeall a derbyn yr amodau hyn. Ond rydym hefyd yn wynebu'r un broblem gyda llawer o gyrff sector cyhoeddus, awdurdodau lleol a chyrff iechyd. Felly, onid yw'n wir mai'r diffyg dealltwriaeth hwnnw sy'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef, fel bod pobl ym mhob sector yn cael yr hawliau sydd ganddynt wedi'u parchu, a'u hanghenion wedi'u diwallu yn unol â hynny?
Dechreuais drwy ddechrau gyda'r pwynt a wnaeth yr Aelod, ac adleisiai'r hyn roedd Jenny Rathbone wedi'i ddweud yn gynharach, sef bod Capita yn gwmni contract allanol sydd â chyfrifoldebau sylweddol iawn mewn sawl un o feysydd cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ac nid yw wedi'i gyfarparu i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Rwy'n anghytuno â Mark Isherwood ar hyn: pan fo sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn cael pethau'n anghywir—ac mae hynny'n digwydd wrth gwrs—mae'r sefydliadau hynny'n atebol am yr hyn a wnânt a gall pleidleiswyr newid y ffordd y darparir y gwasanaethau hynny. Mae ganddynt ddewis yn y blwch pleidleisio. Pwy allai bleidleisio i gael gwared ar Capita? Yn sicr, dyna yw'r gwahaniaeth sylfaenol.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi gymryd yr ymyriad, ond beth sy'n digwydd pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn methu? Ni allwn bleidleisio dros gael gwared ar reolwyr bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, er enghraifft. Felly, os ydych yn derbyn bod honno'n egwyddor rydych chi am ei harfer mewn perthynas â busnesau preifat sy'n ymgysylltu â'r sector cyhoeddus, beth am sefydliadau sector cyhoeddus sy'n ymgysylltu â llywodraethau hefyd?
Wel, Lywydd, mae pobl yn pleidleisio dros yr unigolion sy'n gyfrifol yma am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Gall pobl wneud penderfyniadau gwahanol os nad ydynt yn credu bod hynny'n cael ei gyflawni'n llwyddiannus. Pryd y safodd Capita etholiad? Pryd y gallodd pobl yng ngogledd Cymru, yr effeithiwyd arnynt gan y problemau a nododd Mark Isherwood, fynd i'r blwch pleidleisio i gael gwared ar y cwmni hwnnw? Dyna'r gwahaniaeth hanfodol: dyna pam nad yw'r gymhariaeth rhwng cwmnïau preifat a gwasanaethau cyhoeddus yn un deg na pherthnasol.
Dilynais lawer o'r hyn a ddywedodd Neil Hamilton. Roeddwn i'n credu bod ei ddadansoddiad yn tynnu sylw at rai materion pwysig iawn. Rwy'n dod i gasgliad gwahanol iawn i'w un ef o'r dadansoddiad hwnnw. Dywed mai'r broblem gyda Capita a Carillion yw mai'r hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw mwy o farchnadoedd, a marchnadoedd gwell. Mae fy nghasgliad i yn llawer nes at un Mick Antoniw, mai'r hyn y dengys Carillion a Capita yw methiant model y farchnad ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Ond nid yw'r gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu, ac nid yw'r bobl sy'n eu defnyddio'n gweithredu mewn modd a ysgogir gan yr economi.
Rwyf am ganolbwyntio'n bennaf, os caf, Ddirprwy Lywydd, ar Carillion, behemoth o gwmni llawn ysgogiad a âi ati'n ymosodol i hel contractau Llywodraeth a sector cyhoeddus cymhleth, gan edrych bob amser am y cytundeb nesaf i dalu costau'r cytundeb diwethaf. Câi ei gynnal gan Lywodraeth a ddaliodd ati i ddyfarnu contractau gwerth miliynau o bunnoedd iddo ymhell wedi i'r ysgrifen ymddangos ar y mur, gan achosi niwed i'r gadwyn gyflenwi fel y nododd eraill y prynhawn yma. A phan syrthiodd y tŵr o gardiau yn y diwedd, gadawodd cwymp Carillion stori ddigalon o gyfarwydd yn ei sgil am gyfarwyddwyr na ellid mo'u cyffwrdd, gweithlu wedi'i ddinistrio, pensiynau wedi'u colli a methiannau busnesau eraill a oedd wedi dibynnu ar Carillion am eu bywoliaeth. Ddirprwy Lywydd, mewn llai na 30 eiliad bob un, rwyf am redeg drwy'r 10 o wersi y credaf y gellid eu dysgu o'r profiad hwn, fel yr awgryma'r cynnig. Yn gyntaf oll, er bod yna fethiannau personol gwirioneddol fel y nododd Lee Waters yn glir, mae gwersi go iawn yr adroddiadau'n ymwneud â methiant sefydliadol: methiant gan y cwmni, methiant gan y gwahanol gyfundrefnau rheoleiddio niferus a luniwyd i atal y methiannau hynny rhag digwydd yn y lle cyntaf. Gallwn ddysgu'r gwersi go iawn drwy edrych ar y methiannau sefydliadol hynny.
A'r ail wers o hynny, o ran llywodraethu corfforaethol, yw bod angen inni ddiwygio dyletswyddau cyfarwyddwyr i wneud hyrwyddo llwyddiant hirdymor y cwmni'n brif ddyletswydd i'r cyfarwyddwyr hynny, yn hytrach na mynd ar drywydd buddiannau tymor byr un grŵp yn unig sy'n berthnasol i'r cwmni hwnnw—y cyfranddalwyr. Yn sicr, mae mynd ar drywydd gwerth cyfranddaliadau wedi bod yn un o'r ffactorau mwyaf llesteiriol yn y ffordd y mae cwmnïau Prydeinig wedi cael eu rhedeg dros y degawd a mwy diwethaf. Dyna pam y mae'r TUC a fy mhlaid yn dadlau y dylid gosod gweithwyr-gyfarwyddwyr ar fwrdd cwmnïau gyda mwy na 250 o weithwyr er mwyn dangos bod mwy nag un buddiant yn y fantol yn y ffordd y gweithredir y cwmnïau hynny.
Yn y bedwaredd wers, dywedwn y dylai hawliau llywodraethu corfforaethol buddsoddwyr fod yn destun cyfnod ddwy flynedd fan lleiaf o gydberchnogaeth, fel arall rydym yn agored i'r math o weithgarwch ag a welsom pan gafodd GKN ei drosfeddiannu gan gais gelyniaethus gan Melrose, tynnwr asedau tymor byr, lle roedd y bobl a bleidleisiodd dros dynnu GKN i'r berchnogaeth honno yn gyfranddalwyr tymor byr a bentyrrodd i mewn ar y funud olaf, gan brynu cyfranddaliadau a phleidleisio o blaid y trosfeddiant yn y gobaith o enillion hapfasnachol a llenwi eu pocedi o elw'r cytundeb. Bu tawelwch rhyfedd o feinciau'r Ceidwadwyr yn ystod y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, ond gadewch imi ddyfynnu un o'u plith yn San Steffan, sef Robert Halfon, pan ddisgrifiodd hyn fel 'cyfalafiaeth y lleidr-farwn ar ei waethaf'. A gallwn wneud yn well na hynny.
Mae fy mhumed wers yn ymwneud â'r gweithdrefnau archwilio, cyfrifo ac adrodd, a nodwyd yn arbennig gan Jenny Rathbone. Ni ddylid caniatáu i gwmnïau archwilio gymryd rhan mewn contractau ar gyfer gwasanaethau busnes eraill gyda'u cleientiaid. Mae'n eu rhoi mewn sefyllfa gwbl ffug. Roedd pob un o'r pedwar cwmni archwilio mawr yn gweithio i Carillion mewn rhyw fodd ar ryw adeg neu'i gilydd, ac fel y dywed y Financial Times, nid yw system lle mae gennym rhy ychydig o gwmnïau i fethu yn un sydd o fudd i'r cyhoedd.
Mae'r chweched a'r seithfed wers yn ymwneud â thryloywder ac atebolrwydd. Credwn y dylai pob darparwr gwasanaeth cyhoeddus orfod darparu manylion ynglŷn â chadwyni cyflenwi, perchnogaeth cwmnïau a strwythurau llywodraethu er mwyn i'r cyhoedd gael cipolwg ar beth sy'n digwydd.
Rydym yn credu, yn seithfed, fel y dywedodd Lee Waters, fod angen i ddulliau caffael gael eu llywio gan werth, nid pris yn unig. Yn yr wythfed wers, mae angen inni ailfeddwl am gyfraith cwmnïau er mwyn mynd i'r afael â'r atebolrwydd cyfyngedig a ddarparir i gyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig. Mae The Guardian wedi dadlau y byddai awgrymu cam o'r fath 'yn gyrru ias drwy ystafelloedd byrddau gweithredol'—a ias iach a phwrpasol ar hynny.
Mae atebolrwydd cyfyngedig i fod i annog entrepreneuriaeth. Yn achos Carillion ymddengys ei fod wedi creu perygl moesol.
Gwahoddodd gyfarwyddwyr i weithredu'n ddi-hid am eu bod yn gallu osgoi unrhyw ganlyniadau personol yn sgil eu gweithredoedd.
Ymlaen at y ddwy wers olaf, ac yn fyr iawn, Ddirprwy Lywydd, yn gyntaf oll, mae angen inni ymdrin â'r anhawster sylfaenol a achosir pan fo Llywodraethau'n rhoi gwaith ar gontractau allanol a hynny'n unig am ei fod yn symud dyledion oddi ar fantolen y Llywodraeth. Ymdrech gosmetig yn unig ydyw, a dylid dileu'r arfer drwy newid y ffordd y mae Llywodraeth yn cyfrifyddu contractau.
Yn olaf, ac yn fwyaf oll, Ddirprwy Lywydd, y wers y credaf ein bod yn ei dysgu o'r profiadau hyn yw'r un y dechreuodd Lee Waters â hi, sef y dylid cynllunio gwasanaethau cyhoeddus, a'u hariannu, eu rhedeg a'u gwerthuso gan y sector cyhoeddus, gyda chyfranogiad democrataidd fel mai budd y cyhoedd ac nid elw preifat sydd wrth wraidd y ffordd y caiff ein gwasanaethau cyhoeddus eu rhedeg.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Mike Hedges i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan ynddi.
Credaf mai un o wendidau'r Cynulliad, un o'r beirniadaethau rydym wedi'u cael, yw ein bod yn tueddu i fod yn fewnblyg iawn ac yn amharod i ddysgu o'r tu allan. Credaf fod hon yn enghraifft o lle rydym yn edrych ar beth sydd wedi digwydd, beth sydd wedi mynd o'i le, y tu allan a dysgu gwersi o hynny, a chredaf fod hynny'n wirionedd bwysig, oherwydd os na ddysgwn y gwersi o'r hyn sy'n digwydd nid yn unig dros y ffin, ond ledled Ewrop yn ogystal, yn rhai o'r pethau hyn, gallem ailadrodd y camgymeriadau.
Lee Waters—rwy'n falch iawn ei fod wedi dwyn adroddiadau Tŷ'r Cyffredin ar Carillion a Capita i sylw'r Cynulliad. Rwy'n amau a fyddai llawer o bobl wedi eu darllen pe na bai wedi dod â hwy i sylw'r Cynulliad, ac rwy'n credu bod hynny, ynddo'i hun, yn ddefnyddiol iawn. Ac mae angen inni ddysgu gwersi. Rydym wedi gweld dau gwmni mawr iawn yn cael problemau, ond pam? Ymddengys bod Carillion ag ysfa ddi-baid i wneud arian, fel y'i disgrifiwyd gan Lee Waters, ac roedd hynny'n anghynaliadwy. Roedd yn rhaid ei fod yn anghynaliadwy pan fyddech yn mynd ar drywydd cyfalaf o'r contract nesaf i dalu am yr un presennol.
Capita—wel, fe ddof at yr hyn a ddywedodd Dai Lloyd yn gynharach, ond credaf fod Lee Waters wedi ei grynhoi fel 'diffyg dealltwriaeth', 'darpariaeth garbwl'. Rhaid inni ddysgu gwersi o'r adroddiad. Mae caffael yn ymwneud â mwy na gosod contract, cael y pris lleiaf a gadael iddynt ei gael a gobeithio ei fod yn gweithio. Oherwydd yn aml iawn, ni fydd yn gweithio ac rwy'n credu, gyda chontractau mawr iawn, eich bod yn cael eich sugno i mewn i dalu mwy a mwy o arian wrth i'r contract fynd rhagddo, oherwydd na allwch ddod allan ohono, oherwydd ei fod mor bwysig.
Eglurodd Dai Lloyd arferion Capita a phractisau meddygon teulu a gweddill gofal sylfaenol yn llawer gwell nag y gallwn i, ond credaf mai un peth a eglurodd oedd pa mor anhygoel o gymhleth oedd y cyfan, a bod pobl heb brofiad o'r cymhlethdod yn cynnig am gontractau, yn ennill contractau, ac yna'n dweud, 'O diar'. Mae Dai Lloyd yn gwybod oherwydd roedd ar y cyngor yr un pryd â minnau, rwy'n credu, neu roedd newydd ei adael i ddod yma—roedd gennym Capgemini yn dod i mewn, cwmni na allai gynhyrchu system gyflogres hyd yn oed, fel y gall Aelodau eraill yma a oedd yn byw yn Abertawe neu'n gweithio i'r cyngor ei ddisgrifio. Ni allai gynhyrchu system gyflogres ar gyfer ein cyngor, er iddo wneud cais am y gwaith hwnnw.
Mae gennym gwmnïau allanol y mae modd rhagweld eu methiant. Mae'r pethau hyn yn mynd o chwith mor rheolaidd fel y gallech gredu y byddai pobl wedi dysgu gwersi ohonynt. Y GIG yn Lloegr a Capita—fe wnaethant gamfarnu'r risg. Weithiau, mae pobl yn gwneud cais am bethau nad ydynt yn eu deall yn iawn. Cofiaf weld unwaith, mewn llyfr cyfrifiadurol, ei fod yn dweud bod rhywun eisiau siglen, ac ar ôl iddo fynd drwy'r holl newidiadau gwahanol yn y broses ddylunio, yn y pen draw fe lunodd siglen nad oedd yn siglo, un a oedd yn llonydd ac ni allech eistedd arni, ond roedd wedi mynd drwy'r holl weithdrefnau dylunio gwahanol. Ymddengys bod llawer o hyn yn digwydd gyda chontractau allanol.
Aeth Jenny Rathbone drwy Capita a'i rôl yn asesu lwfansau mynychu. Wel, rwy'n siŵr nad oes unrhyw un yma na allai fynd drwy'r problemau a gawsant gyda Capita a'i rôl yn asesu lwfansau mynychu. Ond aeth ymlaen, yn fwy pwysig, at archwilwyr ac archwilio. Ac mae yna broblem. Ceir tri chwmni mawr lle nad yw archwilio ond yn un rhan o'u hincwm; maent yn gwneud llawer o waith gwerth gorau a buddion eraill i'r cwmni. Pan ddaw mor bwysig â hynny i chi fel cwmni, oherwydd y swm o arian a gewch o'r gwaith ychwanegol a wnewch, pa mor awyddus ydych chi i wneud yn siŵr na fyddwch yn sylwi ar yr holl ddiffygion yn y system archwilio, os byddwch yn wynebu problemau difrifol os cewch eich diswyddo fel archwilydd? Yr un archwilydd annibynnol am 19 mlynedd—hynny yw, mae hynny'n hurt. Mae unrhyw un sydd wedi bod yn gysylltiedig â sefydliadau elusennol a gwirfoddol, ar ôl cael yr un archwilydd am dair neu bum mlynedd a llawer ohonynt yn bobl leol y maent yn eu hadnabod, yn cael gwybod bod angen iddynt newid eu harchwilydd. Os mai dyna beth a ddywedwch wrth sefydliadau bach sy'n ymdrin â symiau cymharol fach o arian, pam y gall cwmni cyhoeddus gael yr un archwilydd am 19 mlynedd—. Rhaid eich bod yn datblygu perthynas gysurus.
Credaf fod Neil Hamilton wedi siarad am fethiant Llywodraeth San Steffan, methiant y rheoleiddiwr, arweinwyr—yn y bôn mae'n fethiant systemig. Mae'n mynd â mi yn ôl i feddwl am y fenter cyllid preifat. Roedd y bobl a brofodd fod PFI yn werth am arian—cymerai athrylith i wneud hynny, oherwydd byddech yn benthyca arian ar lefel uwch ac uwch, roeddech yn talu arian allan dros weddill yr amser bron i gyd, roedd gennych gontractau a oedd yn cynnwys taliadau ar gyfer popeth o £30 am newid bylb golau yr holl ffordd drwodd. Ond byddai rhywun yn gwneud cyfrifiad, ac os na châi'r ateb cywir, caech eich gyrru'n ôl i roi cynnig arall arni. Yn rhy aml, credaf ein bod yn ateb yn gyntaf ac yna'n gweithio'n ôl i beth ddylai'r cwestiwn fod. Ac mae llawer o hynny wedi digwydd yma.
Unwaith eto, Carillion yn cyllido drwy ddyled—pan fo'r rhan fwyaf o'ch taflen yn ewyllys da, sy'n ddwywaith cymaint ag sydd gennych o arian—. Un o'r pethau a gyflwynais, pan oeddwn yn gweithio i'r cyngor—ar gyfer sefydliadau bach a gâi eu rhedeg gan y cyngor, byddwn yn gofyn iddynt, 'A gawn ni'r llif arian?' Beth bynnag, dywedwyd wrthyf nad oedd yn ddefnyddiol iawn. 'Nid ydych am weld hwnnw; y cyfrifon sydd angen i chi eu gweld. Mae'r cyfrifon yn rhoi cofnod gwir a chywir i chi. Nid ydych am weld y llif arian, oherwydd mae'n rhoi darlun anghywir—mae'n amrywio.' Wel, dywedais, 'A allaf ei gael ar gyfer pob mis am 12 mis? Oherwydd mae'n siŵr o fynd i fyny ac i lawr. Mae'n sicr o fod yn iawn o bryd i'w gilydd, ac ar ôl 12 mis, ni all fod lawer allan ohoni.' Oherwydd bydd pobl yn rhoi pethau mewn stoc, ac maent yn prisio stoc. Ceir llu o driciau bach y mae cyfrifwyr yn gwybod amdanynt er mwyn gwneud yn siŵr nad oes arian yn cael ei golli.
Methiant preifateiddio—roedd Mick Antoniw yn llygad ei le. A ddylem fod yn hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol? Mae gormod o gystadleuaeth rhyngoch chi'n ceisio cael y fargen orau, a hwy'n ceisio cael y fargen orau. Beth am weithio gyda'n gilydd?
Credaf fod Mark Drakeford wedi siarad am ddysgu gwersi o fannau eraill. Gochelwch rhag mynd ar drywydd rhywbeth sy'n afrealistig ac yn anghyraeddadwy o ran arbedion, ond mae rhywun yn dweud wrthych y gallant ei wneud. Mae stori Capita yn rhybudd. Nid oedd wedi'i gyfarparu i gyflawni'r hyn roedd i fod i'w gyflawni. Carillion, ymosodol wrth fynd ar drywydd contractau—roeddwn yn hapus iawn â'r 10 gwers a roddodd Mark Drakeford. Buaswn wedi meddwl y byddent yn gwneud datganiad Llywodraeth da iawn ar ryw adeg, o'r gwersi sydd eu hangen arnom, neu'r rheolau sydd eu hangen arnom, neu'r rheolau caffael neu'r gwersi y mae angen i ni—. Oherwydd credaf ei bod yn bwysig inni ei gael yn iawn, ein bod yn dysgu o'r hyn sydd wedi mynd o'i le. Nid ydym am ei ailadrodd.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.