Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi gymryd yr ymyriad, ond beth sy'n digwydd pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn methu? Ni allwn bleidleisio dros gael gwared ar reolwyr bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, er enghraifft. Felly, os ydych yn derbyn bod honno'n egwyddor rydych chi am ei harfer mewn perthynas â busnesau preifat sy'n ymgysylltu â'r sector cyhoeddus, beth am sefydliadau sector cyhoeddus sy'n ymgysylltu â llywodraethau hefyd?