9. Dadl Fer: Mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru: Ystyr ystadegau yn ymarferol; rôl Llywodraeth Cymru; ac effaith Brexit ar yr agenda tlodi plant

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:44, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Ogledd Cymru am dynnu sylw at y mater hollbwysig hwn heddiw. Rwy'n falch o ymateb ar ran y Llywodraeth gyfan. Mae ein rhaglen ar gyfer trechu tlodi yn rhywbeth y mae pob Gweinidog yn gyfrifol amdani. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o allu ymateb ar ran pob un o'r Gweinidogion yn y ddadl hon.

Fe ddechreuaf drwy ddweud er bod data diweddar yn dangos bod lefel tlodi plant cymharol yng Nghymru wedi gostwng ychydig, nid oes gennym le o gwbl i fod yn hunanfodlon. Mae'r lefelau presennol yn rhy uchel, rhaid cyfaddef, ac mae consensws barn ymhlith amrywiaeth o sefydliadau ymchwil uchel eu parch fod effaith andwyol diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU ar deuluoedd dan anfantais yn golygu y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol mewn tlodi plant yn y blynyddoedd i ddod. Amcangyfrifodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y gallai 50,000 ychwanegol o blant Cymru gael eu gorfodi i fyw mewn tlodi, ac y gallem weld lefelau amddifadedd yn codi i'n teuluoedd mwyaf agored i niwed.

Nawr, fel y gwyddoch, nid yw'r pwerau ariannol dros y system les sydd eu hangen er mwyn sicrhau unrhyw newid sylweddol i lefelau tlodi plant ym meddiant Llywodraeth Cymru, ond mae llawer y gallwn ei wneud gyda'n dulliau presennol i helpu i liniaru effaith tlodi ar ein plant a'u teuluoedd, ac yn wir, i atal tlodi yn y tymor hwy. Dyna rwyf am ganolbwyntio arno: atal tlodi.

Rydym yn credu bod buddsoddi ym mlynyddoedd cynnar bywyd plentyn yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'. Rydym yn canolbwyntio ar y meysydd lle y gellir cael yr effaith fwyaf—ar y blynyddoedd cynnar hollbwysig ym mywyd y plentyn ac ar hyrwyddo cyflogadwyedd. Rydym yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at wella iechyd a chanlyniadau datblygiadol drwy raglenni fel Dechrau'n Deg a'n rhaglen Plant Iach Cymru. Mae ein rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn rhoi cyngor a chymorth i rieni, gan edrych ar holl anghenion y teulu cyfan.

Ar gyflogadwyedd, ceir tystiolaeth gref i ddangos mai cyflogaeth sy'n darparu'r llwybr mwyaf cynaliadwy allan o dlodi, ac mae ein cynllun cyflogadwyedd yn nodi'r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd i gynorthwyo unigolion i ddod o hyd i waith, ac i barhau a chamu ymlaen mewn gwaith. Gwyddom fod aros mewn gwaith a chael cyfleoedd i wneud cynnydd drwy waith yn hollbwysig ar gyfer gwella canlyniadau. Mae'n rhaid dweud bod y cynllun cyflogadwyedd yn gweithio ochr yn ochr â'n cynllun gweithredu economaidd, cynllun i gynyddu cyfoeth a lles gan leihau anghydraddoldebau hefyd.

Ac wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd ceir perthynas newydd rhwng y Llywodraeth a busnes yn seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddiad cyhoeddus gyda diben cymdeithasol. Mae ein contract economaidd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n chwilio am fuddsoddiad uniongyrchol gennym i ymddwyn yn gyfrifol fel busnesau ac fel cyflogwyr. Ein huchelgais yw gwneud Cymru'n genedl waith teg, gyda mynediad at swyddi gwell, yn agosach at adref, gan ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd, cenedl lle y gall pob un ohonom ddisgwyl gwaith gweddus sy'n gwella bywyd, a chenedl lle mae pawb ohonom yn adeiladu ffyniant ac yn rhannu yn y ffyniant hwnnw. Rydym yn sefydlu comisiwn gwaith teg a fydd yn profi'r dystiolaeth ac yn gwneud argymhellion ar gefnogi gwaith teg yng Nghymru, ac rydym yn disgwyl i'r comisiwn gyflwyno adroddiad yn ystod gwanwyn 2019.

O ran effaith y DU yn gadael yr UE ar yr agenda tlodi plant, bydd hyn yn cael effaith bellgyrhaeddol ar ffyniant Cymru am flynyddoedd lawer i ddod. Mae'r dadansoddiadau'n dangos y bydd unrhyw leihad sylweddol yn y mynediad at y farchnad sengl yn niweidiol i ffyniant Cymru. Er enghraifft, gallai cost bwyd, yn enwedig ffrwythau a llysiau, godi'n sylweddol mewn senario 'dim bargen'. Mae cynnydd o'r fath yn y prisiau yn debygol o gael ei deimlo'n anghymesur ymhlith y plant sy'n byw yn y teuluoedd lleiaf cefnog.

Er nad ydym yn tanamcangyfrif maint yr her sy'n ein hwynebu, rhaid inni gydnabod cryfder y cyfle hefyd. Yn ôl safonau hanesyddol, mae ein marchnad lafur mewn sefyllfa gymharol gryf. Mae gennym gyfle i adeiladu ar y datblygiadau a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf a welodd yn agos at y nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith. Hefyd mae gennym gyfle go iawn i adeiladu ar ein perthynas â chwmnïau o'r radd flaenaf a buddsoddiadau sylweddol. Drwy ein gwaith, gallwn adeiladu ar y sylfeini cryf rydym yn eu datblygu, diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol a grymuso ein pobl a'n cymunedau, fel bod pawb ohonom yn cael cyfle i gyfrannu at, ac elwa o dwf economaidd.