– Senedd Cymru am 5:28 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Felly, symudwn at eitem 9 ar ein hagenda, sef y ddadl fer, a galwaf ar Llyr Gruffydd.
Wel, diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd—[Torri ar draws.]
Un funud. Os ydych yn mynd allan o'r Siambr, gwnewch hynny'n gyflym, ac os nad ydych yn gwneud hynny, os ydych yn aros i wrando ar y ddadl fer, gwrandewch arni os gwelwch yn dda.
Galwaf yn awr ar Llyr Gruffydd i gyflwyno'r ddadl fer.
Iawn. Wel, diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr bod nifer ohonom ni wedi bod yn gwylio cwpan y byd dros yr wythnosau diwethaf—yn wir, mae wedi bod yn amhosib osgoi'r peth yn y 24 awr ddiwethaf. Ond rydw i'n cyfeirio at hynny oherwyd mi ges i'r profiad o ddarllen erthygl yn ddiweddar ynglŷn â'r tlodi dybryd roedd un o chwaraewyr mwyaf amlwg y gystadleuaeth honno wedi ei brofi yn blentyn a dim ond wedi sylwi pa mor dlawd oedd y teulu—roedd e'n cael ei ginio bob dydd, roedd e'n cael llaeth a bara, ac mi ddaliodd o ei fam ryw ddiwrnod yn rhoi dŵr ar ben y llaeth, a sylweddoli o'r eiliad honno ymlaen, ac yntau dal yn blentyn bach, pa mor wirioneddol dlawd oedd y teulu.
Y chwaraewr hwnnw yw Romelu Lukaku, ymosodwr Belg, un o chwaraewyr mwyaf amryddawn y byd erbyn hyn, un o sêr mwyaf y gamp, ac mae e wedi ysgrifennu am ei brofiadau e o dlodi plant. Roeddwn i'n meddwl bod hynny'n drawiadol iawn ac, wrth gwrs, yn ein hatgoffa ni bod yna filoedd o blant yng Nghymru heddiw yn byw mewn tlodi, a rhai ohonyn nhw, rydw i'n siŵr, yn byw yn yr un fath o dlodi a brofodd e pan oedd e'n blentyn. Mae e'n destun pryder i ni gyd, rydw i'n gwybod, ein bod ni'n gorfod dod fan hyn i drafod y pwnc yma pan mae e yn codi fel hyn yn y Siambr, ond, wrth gwrs, ni allwn ni ddim osgoi'r realiti fod yn agos i draean o blant Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, ac mae'n rhaid i ni felly gymryd y mater yma yn gwbl o ddifri a gwneud mwy i fynd i'r afael â'r broblem.
Fe fydd nifer ohonoch chi'n cofio, nôl yn 2005, y cyhoeddodd y Llywodraeth bryd hynny strategaeth 'Dyfodol Teg i'n Plant', gyda'r bwriad o haneru ac yna cael gwared ar dlodi plant yn llwyr. Yna, yn 2006, mi gyhoeddodd y Llywodraeth y papur 'Cael Gwared ar Dlodi Plant yng Nghymru—Mesur Llwyddiant', a oedd yn gosod cerrig milltir ac yn amlinellu'n glir pa gamau roedden nhw am eu cymryd i gyrraedd y targed hwnnw. Yn 2006 hefyd, mi gafwyd y cynllun gweithredu tlodi plant, ac eto, yn yr un flwyddyn, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i gael gwared ar dlodi plant erbyn 2020. Bryd hynny, roedd 27 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Er gwaethaf hyn, wrth gwrs, mae'r ffigurau yn dangos, 12 mlynedd yn ddiweddarach, fod yna ganran uwch o blant Cymru erbyn hyn—28 y cant—yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Ac yn wir, fis Rhagfyr diwethaf, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd ddatganiad fod y Llywodraeth am gael gwared ar ei huchelgais o ddileu tlodi plant erbyn 2020. Wel, pa fath o neges y mae hynny yn ei roi ynghylch blaenoriaethau, dywedwch?
Fy ngobaith i, felly, yn y ddadl yma heddiw yw tanlinellu difrifolwch y sefyllfa yma, wrth gwrs, ond hefyd yr angen i'r Llywodraeth edrych eto ar ei approach i daclo tlodi plant, a'r angen iddi wneud mwy i fynd i'r afael â'r felltith yma. Yn wir, mae adroddiadau annibynnol yn amcangyfrif erbyn hyn y gall fod hyd at 250,000 o blant yn byw mewn tlodi yma yng Nghymru erbyn 2021, ac mi fyddai hynny yn cynrychioli cynnydd o 50,000 o'i gymharu â lle rydym ni ar hyn o bryd. Ac rŷm ni'n gwybod bod plant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi cymharol o'u cymharu ag unrhyw grŵp arall—er enghraifft oedolion oed gwaith neu bensiynwyr. Ac o blith y plant hynny, mae plant sy'n byw mewn teuluoedd gyda rhieni sengl, neu sy'n byw mewn aelwydydd di-waith, neu sy'n byw ar aelwyd sy'n cynnwys person anabl, hyd yn oed yn fwy tebygol eto o ffeindio'u hunain yn byw mewn tlodi.
Mae rhai rhannau o Gymru, wrth gwrs, yn dioddef lefelau tlodi plant a ddylai'n cywilyddio ni i gyd. Er enghraifft, yn ôl ymchwil ymgyrch Dileu Tlodi Plant, mae dros hanner plant Gorllewin y Rhyl, er enghraifft, yn byw mewn tlodi. Fel y dywedodd Sean O'Neill, cyfarwyddwr polisi Plant yng Nghymru, yn gynharach eleni—ac fe wnaf i ddyfynnu'r hyn a ddywedodd e—
Mae plant mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru yn wynebu pwysau sylweddol ac yn tyfu mewn nifer. Mae ffigurau unwaith eto'n dangos bod tlodi plant yn gyffredin ym mhob rhan o Gymru gyda nifer gynyddol o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae effaith y newidiadau a gyflwynwyd gan raglen ddiwygio lles Llywodraeth y DU ar adeg pan fo costau o ddydd i ddydd yn cynyddu yn taro llawer o deuluoedd yn galed. Rhaid i lywodraethau ar bob lefel sicrhau bod camau'n cael eu rhoi ar waith ar frys i atal a diogelu teuluoedd sydd eisoes yn cael trafferth i ddarparu ar gyfer eu plant.
Fel y gwyddom, mae Plant yng Nghymru yn anelu i gyfrannu at lunio polisi sy'n lleihau lefelau tlodi plant ac yn lliniaru'r effaith ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, ac mae hynny'n cynnwys cydlynu Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru. Gwelwn arolygon blynyddol yn cael eu cynnal, sy'n edrych ar sut y mae tlodi teuluol wedi newid o gymharu â blynyddoedd blaenorol, a chynhaliwyd yr arolwg diweddaraf rhwng canol mis Chwefror a chanol mis Ebrill eleni, gyda phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol. Nododd ymatebwyr i'r arolwg hwnnw mai newidiadau i'r system fudd-daliadau yw'r ffactor bwysicaf sy'n ymwneud â thlodi, gydag incwm a chyflogaeth ansefydlog yn bwysicaf ond un. Roedd 48 y cant—bron i hanner yr ymatebwyr—yn dweud bod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd rhai o'r materion a nodwyd yn yr arolwg hefyd yn cynnwys diffyg eitemau hanfodol fel dillad a gwelyau. Roedd materion eraill yn cynnwys mynediad at fanciau bwyd, tlodi cymdeithasol, megis methiant i gymryd rhan mewn gweithgareddau, hunan-barch a dyheadau isel, a'r effaith negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol yn ogystal. Mae'n cynnig darlun llwm a digalon iawn, onid yw?
Hoffwn dalu teyrnged i Plant yng Nghymru, a'r holl sefydliadau eraill sy'n gwneud cymaint o waith yn eu brwydr yn erbyn tlodi a'i effeithiau ar blant a theuluoedd yng Nghymru. Mae gennym ddigon o dystiolaeth yma yng Nghymru, wrth gwrs, o'r effaith negyddol y mae newidiadau lles yn eu cael ar rai teuluoedd, gan gynnwys rhewi neu dorri budd-daliadau, oedi cyn gwneud taliadau, cosbau, treth ystafell wely, a'r terfyn dau blentyn newydd ar fudd-daliadau prawf modd. Yn amlwg mae hon yn broblem enfawr sy'n wynebu teuluoedd a phlant yng Nghymru, ac eto, fel y gwyddom, mae Llywodraeth Cymru yn dal i wrthod galw am ddatganoli rhai o'r pwerau dros les i Gymru fel y gallai liniaru o leiaf rai o elfennau gwaethaf diwygiadau lles Llywodraeth y DU.
Soniais am fynediad at fanciau bwyd eiliad yn ôl, ac roeddwn yn siarad ag un o ymddiriedolwyr y banc bwyd yn Nyffryn Clwyd yr wythnos diwethaf, a dywedodd wrthyf fod tua thraean y bobl sy'n cael pecynnau bwyd ganddynt yn blant. Cafodd dros 500 o blant barseli bwyd ganddynt yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae hyn oll yn golygu, wrth gwrs, fod pobl yn gorfod gwneud dewisiadau amhosibl ar sail ddyddiol, ac ni ddylent orfod gwneud hynny. Rydym wedi'i glywed o'r blaen, onid ydym? Mae'n rhaid iddynt ddewis rhwng rhoi bwyd ar y bwrdd, dilladu eu plant, neu wresogi eu cartref.
Tynnwyd fy sylw yn ddiweddar at erthygl a ymddangosodd yn y British Medical Journal yn rhybuddio mai'r argyfwng iechyd cyhoeddus nesaf yn y DU fydd diffyg maethiad ymhlith plant—diffyg maethiad ymhlith plant mewn economi orllewinol yn yr unfed ganrif ar hugain. Nawr, mae hyn yn ei dro, wrth gwrs, yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol, gydag athrawon yn gwneud eu gorau i weithio gyda phlant sy'n llwglyd, wedi blino, ac yn dioddef yn sgil rhai o effeithiau corfforol eraill tlodi. Roedd un athro mewn ysgol gynradd yn agos at ble rwy'n byw yn dweud wrthyf yn ddiweddar sut y bu'n rhaid iddi ymdrin mwy â'r gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y blynyddoedd diwethaf nag y bu'n rhaid iddi erioed o'r blaen—ar lefelau nas gwelwyd o'r blaen, o gymharu â'i phrofiad dros yrfa hir yn addysgu.
Felly, gadewch inni fod yn glir: mae tlodi plant yn tramgwyddo yn erbyn hawliau, ac mae gan Weinidogion y Llywodraeth hon ddyletswydd sylw dyledus i'r CCUHP drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Nawr, y cwestiwn sy'n ein hwynebu, a'r un rydym yn ei ofyn i'n hunain yw hwn: a yw tlodi plant o ddifrif yn dod yn norm i lawer o deuluoedd, ysgolion a chymunedau ledled Cymru bellach, a beth sy'n cael ei wneud am y peth? Nawr, crybwyllais ar ddechrau'r cyfraniad hwn rai o'r mentrau gan Lywodraethau Cymru blaenorol dros ddegawd yn ôl bellach i geisio trechu tlodi plant. Felly, ble rydym ni heddiw? Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn parhau i ddarparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer trechu tlodi plant yng Nghymru. Mae'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus a enwir i osod amcanion ar gyfer trechu tlodi plant.
Cyhoeddodd y Llywodraeth Cymru flaenorol ei strategaeth tlodi plant ddiwygiedig ym mis Rhagfyr 2015, ac ar ôl gwerthuso'r strategaeth a'r asesiad, cyhoeddwyd adroddiad cynnydd ym mis Rhagfyr 2016. Fodd bynnag, nid yw'n glir sut y defnyddir y strategaeth hon, na sut, heddiw, y mae'n ffurfio meddylfryd y Llywodraeth bresennol. Gwelir 'Symud Cymru Ymlaen', strategaeth sylfaenol y Llywodraeth fel y cyfrwng newydd ar gyfer rhoi camau ar waith; ond nid oes cyfeiriad penodol at dlodi ynddi, ar wahân i sôn yn fras am dlodi tanwydd. Yn wir, strategaeth genedlaethol flaenllaw'r Llywodraeth 'Ffyniant i Bawb'—yn honno nid oes ond un cyfeiriad at dlodi, sydd i'w weld yn nhestun blaenoriaeth drawsbynciol y blynyddoedd cynnar, ond wrth gwrs ni cheir cynllun gweithredu tlodi plant ar gyfer cyflawni'r strategaeth.
Roedd gan y Llywodraeth gynllun gweithredu trechu tlodi ehangach gyda cherrig milltir mesuradwy, targedau a dangosyddion perfformiad allweddol rhwng 2013 a 2016. Fodd bynnag, daeth y cynllun hwn i ben gyda diwedd y Llywodraeth ddiwethaf, ac nid ydym wedi gweld unrhyw gynllun gweithredu newydd ar gyfer cyflawni'r agenda hon. Wrth gwrs, yr hyn a welsom er hynny, yw dileu'r rhaglen wrth-dlodi Cymunedau yn Gyntaf, gwelsom ddileu'r grant gwisg ysgol cyn i'r penderfyniad gael ei wrthdroi wedyn oherwydd protestio croch gan y cyhoedd, gwyddom fod Dechrau'n Deg yn darparu gwasanaeth, ond mae'n loteri cod post i raddau helaeth, a chafwyd adroddiad yn ddiweddar gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dweud nad yw'r rhan fwyaf o'r plant sydd angen y gwasanaethau hynny'n byw yn yr ardaloedd sy'n cynnig mynediad atynt, ac wrth gwrs, rydym bellach yn gweld y Llywodraeth yn cyflwyno cynnig gofal plant sy'n bwriadu rhoi gofal plant am ddim i gyplau sy'n ennill hyd at £200,000 y flwyddyn ond sy'n gwahardd y plant tlotaf o deuluoedd di-waith rhag cael yr un cymorth. Mae grŵp cynghori ar dlodi a sefydlwyd o dan y Llywodraeth ddiwethaf gyda chynrychiolaeth o bob sector a grŵp allweddol hefyd wedi cael ei ddileu.
Y gwir trist yw bod Cymru yn awr heb brif darged neu addewid tebyg i ddileu tlodi plant erbyn dyddiad penodol yn y dyfodol, ac nid ymddengys bod awydd, o'r hyn rwy'n ei weld gan y Llywodraeth hon, i gyflwyno targed o'r fath ychwaith. Ond rhaid inni gael uchelgais, a rhaid inni gael targed i anelu ato. Sut arall y gallwn fesur a yw polisïau'r Llywodraeth yn llwyddiannus ai peidio mewn unrhyw ffordd ystyrlon? Galwodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn am dargedau pendant o fewn ffrâm amser yn ôl ym mis Gorffennaf 2016. Galwodd Sefydliad Joseph Rowntree am greu nod i weld llai nag un o bob 10 o bobl yn byw mewn tlodi ar unrhyw un adeg erbyn 2030. Yn wir, byddai 2030 fel targed yn cyd-fynd â nodau datblygu cynaliadwy Cymru ar roi terfyn ar dlodi ac anghydraddoldeb, gan ddarparu perthynas gadarn â bwriadau Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru hefyd wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei huchelgais flaenorol a gosod prif dargedau newydd, rhywbeth rydym ni ym Mhlaid Cymru yn ei gefnogi'n gadarn.
Hefyd nid oes gan y Llywodraeth fecanwaith adrodd blynyddol a fyddai'n dwyn ynghyd yr holl weithgareddau mewn un lle a fyddai'n caniatáu gwell dealltwriaeth o sut y mae'r holl wahanol raglenni—megis Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, y gwahanol ffrydiau a pholisïau ariannu—yn cyfrannu gyda'i gilydd tuag at darged cyffredinol. Gallai un cynllun cydlynol o'r fath fod yn grynodeb o gamau gweithredu sydd eisoes yn bodoli gyda thargedau clir sy'n ategu ei gilydd a cherrig milltir a naratif cryf o'i amgylch yn ogystal i adfywio'r holl ddadl ynghylch tlodi plant. Bydd hynny'n gymorth inni symud o broblemau i atebion hefyd ac yn anfon neges ddiamwys at yr holl bartneriaid cyflenwi, gan gynnwys cyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ynglŷn â bwriad clir a disgwyliadau'r Llywodraeth, gan roi ffocws penodol ar drechu tlodi plant.
Cymharwch ein sefyllfa yng Nghymru gyda'r Alban, lle mae Llywodraeth yr Alban wedi pennu targedau newydd ar gyfer 2030, megis cael llai na 10 y cant yn byw mewn tlodi cymharol, llai na 5 y cant yn byw mewn tlodi eithafol, llai na 5 y cant yn byw mewn tlodi parhaus—a cheir rhai eraill hefyd. Maent hefyd wedi cyhoeddi cynllun cyflawni ar dlodi plant, sy'n nodi'n glir y camau i'w cymryd er mwyn symud ymlaen tuag at y targedau tlodi plant uchelgeisiol a osodwyd ar gyfer 2030. Mae'n ofid i mi fod ymateb ein Llywodraeth yma yng Nghymru wedi bod yn wan mewn cymhariaeth.
Mae argymhellion allweddol a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylid cyhoeddi strategaeth trechu tlodi glir a bod Llywodraeth Cymru'n datblygu dangosfwrdd o ddangosyddion tlodi ill dau wedi'u gwrthod. Buaswn yn annog y Llywodraeth i ailystyried eu penderfyniad i'w gwrthod ac i edrych ar y cynigion hyn eto. Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir o ran ein polisïau: rydym am weld gofal plant ar gael i bob rhiant yn hytrach na'r cynigion cyfyngedig sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Pam na allwn ailgyfeirio rhaglenni sgiliau oedolion i wobrwyo darparwyr am ganlyniadau megis incwm yn hytrach na chymwysterau a enillwyd? Ac wrth gwrs rydym am weld mabwysiadu polisi 'dim troi allan' oherwydd toriadau i fudd-daliadau ar gyfer pob teulu â phlant.
Rwy'n sylweddoli fod amser yn brin felly fe wnaf un pwynt pwysig, a gwneuthum bwynt tebyg mewn dadl gynharach. Yn aml iawn, mae cryfderau i gael ymagwedd drawslywodraethol tuag at rai o'r materion ehangach hyn, ond gall fod risgiau yn ogystal. Nid wyf yn argyhoeddedig yn y cyd-destun hwn ei fod yn gweithio mewn gwirionedd. Mae'n dweud rhywbeth nad oedd gennyf syniad o gwbl pa Weinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet oedd yn mynd i fod yn ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma. Nid wyf yn siŵr beth y mae hynny'n ei ddweud wrthym ynglŷn ag eglurder ynghylch pwy sy'n arwain ar hyn yn y Llywodraeth. Efallai fod digon o yrwyr sedd gefn, ond pwy sy'n eistedd yn sedd y gyrrwr yma, pwy sy'n arwain ar yr agenda hon, pwy sy'n arwain yr ymosodiad ar y tu blaen?
Rwy'n brin o amser, felly rwyf am gloi fy sylwadau drwy ddweud bod tlodi plant yng Nghymru yn gwaethygu ac mae angen i ymateb y Llywodraeth adlewyrchu'r ffaith honno, oherwydd mae'n ffaith. Mae angen inni ddwysáu ein gweithredoedd, cryfhau ein hymdrechion, a bod yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy penderfynol nag erioed i gael gwared ar y pla hwn o Gymru. Fel Romelu Lukaku, mae angen inni chwarae gêm ein bywydau er mwyn trechu tlodi plant. Mae angen yr un math o adferiad yn y cyd-destun hwn ag y profodd tîm Gwlad Belg y noson o'r blaen yn erbyn Japan. Rwy'n gobeithio, yn ei ymateb, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn adlewyrchu'r un teimlad yn union, yr un uchelgais, yr un penderfyniad, ond gan weithredu i gefnogi hynny.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl? Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Ogledd Cymru am dynnu sylw at y mater hollbwysig hwn heddiw. Rwy'n falch o ymateb ar ran y Llywodraeth gyfan. Mae ein rhaglen ar gyfer trechu tlodi yn rhywbeth y mae pob Gweinidog yn gyfrifol amdani. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o allu ymateb ar ran pob un o'r Gweinidogion yn y ddadl hon.
Fe ddechreuaf drwy ddweud er bod data diweddar yn dangos bod lefel tlodi plant cymharol yng Nghymru wedi gostwng ychydig, nid oes gennym le o gwbl i fod yn hunanfodlon. Mae'r lefelau presennol yn rhy uchel, rhaid cyfaddef, ac mae consensws barn ymhlith amrywiaeth o sefydliadau ymchwil uchel eu parch fod effaith andwyol diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU ar deuluoedd dan anfantais yn golygu y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol mewn tlodi plant yn y blynyddoedd i ddod. Amcangyfrifodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y gallai 50,000 ychwanegol o blant Cymru gael eu gorfodi i fyw mewn tlodi, ac y gallem weld lefelau amddifadedd yn codi i'n teuluoedd mwyaf agored i niwed.
Nawr, fel y gwyddoch, nid yw'r pwerau ariannol dros y system les sydd eu hangen er mwyn sicrhau unrhyw newid sylweddol i lefelau tlodi plant ym meddiant Llywodraeth Cymru, ond mae llawer y gallwn ei wneud gyda'n dulliau presennol i helpu i liniaru effaith tlodi ar ein plant a'u teuluoedd, ac yn wir, i atal tlodi yn y tymor hwy. Dyna rwyf am ganolbwyntio arno: atal tlodi.
Rydym yn credu bod buddsoddi ym mlynyddoedd cynnar bywyd plentyn yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'. Rydym yn canolbwyntio ar y meysydd lle y gellir cael yr effaith fwyaf—ar y blynyddoedd cynnar hollbwysig ym mywyd y plentyn ac ar hyrwyddo cyflogadwyedd. Rydym yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at wella iechyd a chanlyniadau datblygiadol drwy raglenni fel Dechrau'n Deg a'n rhaglen Plant Iach Cymru. Mae ein rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn rhoi cyngor a chymorth i rieni, gan edrych ar holl anghenion y teulu cyfan.
Ar gyflogadwyedd, ceir tystiolaeth gref i ddangos mai cyflogaeth sy'n darparu'r llwybr mwyaf cynaliadwy allan o dlodi, ac mae ein cynllun cyflogadwyedd yn nodi'r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd i gynorthwyo unigolion i ddod o hyd i waith, ac i barhau a chamu ymlaen mewn gwaith. Gwyddom fod aros mewn gwaith a chael cyfleoedd i wneud cynnydd drwy waith yn hollbwysig ar gyfer gwella canlyniadau. Mae'n rhaid dweud bod y cynllun cyflogadwyedd yn gweithio ochr yn ochr â'n cynllun gweithredu economaidd, cynllun i gynyddu cyfoeth a lles gan leihau anghydraddoldebau hefyd.
Ac wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd ceir perthynas newydd rhwng y Llywodraeth a busnes yn seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddiad cyhoeddus gyda diben cymdeithasol. Mae ein contract economaidd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n chwilio am fuddsoddiad uniongyrchol gennym i ymddwyn yn gyfrifol fel busnesau ac fel cyflogwyr. Ein huchelgais yw gwneud Cymru'n genedl waith teg, gyda mynediad at swyddi gwell, yn agosach at adref, gan ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd, cenedl lle y gall pob un ohonom ddisgwyl gwaith gweddus sy'n gwella bywyd, a chenedl lle mae pawb ohonom yn adeiladu ffyniant ac yn rhannu yn y ffyniant hwnnw. Rydym yn sefydlu comisiwn gwaith teg a fydd yn profi'r dystiolaeth ac yn gwneud argymhellion ar gefnogi gwaith teg yng Nghymru, ac rydym yn disgwyl i'r comisiwn gyflwyno adroddiad yn ystod gwanwyn 2019.
O ran effaith y DU yn gadael yr UE ar yr agenda tlodi plant, bydd hyn yn cael effaith bellgyrhaeddol ar ffyniant Cymru am flynyddoedd lawer i ddod. Mae'r dadansoddiadau'n dangos y bydd unrhyw leihad sylweddol yn y mynediad at y farchnad sengl yn niweidiol i ffyniant Cymru. Er enghraifft, gallai cost bwyd, yn enwedig ffrwythau a llysiau, godi'n sylweddol mewn senario 'dim bargen'. Mae cynnydd o'r fath yn y prisiau yn debygol o gael ei deimlo'n anghymesur ymhlith y plant sy'n byw yn y teuluoedd lleiaf cefnog.
Er nad ydym yn tanamcangyfrif maint yr her sy'n ein hwynebu, rhaid inni gydnabod cryfder y cyfle hefyd. Yn ôl safonau hanesyddol, mae ein marchnad lafur mewn sefyllfa gymharol gryf. Mae gennym gyfle i adeiladu ar y datblygiadau a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf a welodd yn agos at y nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith. Hefyd mae gennym gyfle go iawn i adeiladu ar ein perthynas â chwmnïau o'r radd flaenaf a buddsoddiadau sylweddol. Drwy ein gwaith, gallwn adeiladu ar y sylfeini cryf rydym yn eu datblygu, diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol a grymuso ein pobl a'n cymunedau, fel bod pawb ohonom yn cael cyfle i gyfrannu at, ac elwa o dwf economaidd.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.