Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:43, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae ar y cofnod eich bod chi wedi dweud bod pawb yn rhedeg o gwmpas yn sgrechian, pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf beth yw eich cynllun ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Mae San Steffan mewn anhrefn, ac mae gadael yr UE heb gytundeb yn edrych yn fwy tebygol nag erioed erbyn hyn. Felly, a wnewch chi ymrwymo nawr i ddatblygu cynllun 'dim cytundeb' i ddiogelu swyddi a chyflogau Cymru, a chyfleoedd cenedlaethau'r dyfodol?