Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:44, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu fy mod i newydd ateb y cwestiwn yna. Nid oes unrhyw fesurau lliniaru yn erbyn dim cytundeb. Ni fyddai'n iawn i ddweud hynny. Y gwir amdani yw, os byddwn ni'n cael Brexit 'dim cytundeb', byddwn yn colli swyddi, a byddwn yn colli buddsoddiad. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, a dyna pam yr wyf i wedi brwydro'n galed yn erbyn Brexit 'dim cytundeb'. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad ydym ni'n gwneud unrhyw beth o ran paratoi ar gyfer Brexit. Bydd hi wedi fy nghlywed i'n dweud yn gynharach yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud. Rydym ni hefyd wedi sefydlu, wrth gwrs, cronfa bontio'r UE—£50 miliwn sy'n helpu busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau eraill i gynllunio ar gyfer a pharatoi ar gyfer effaith Brexit. Felly, oes, mae gennym ni nifer o grwpiau lle'r ydym ni'n siarad â rhanddeiliaid. Mae gennym ni arian ar y bwrdd hefyd. Ond does bosib y gall neb esgus y gellir lliniaru'n llawn yn erbyn Brexit 'dim cytundeb', oherwydd ni ellir gwneud hynny.