Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r system asesu i bennu blaenoriaeth glinigol claf. Bydd y math o ymateb a anfonir i blentyn sydd wedi dioddef ffit yn dibynnu ar y wybodaeth a ddarparwyd gan y person sydd wedi deialu 999, ond gallaf ddweud mewn ymateb i'w bryder penodol bod y prif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans yn goruchwylio adolygiad o'r categori ambr ar hyn o bryd, a fydd yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella yn yr hydref, ac mae'n bwysig bod y mater hwn y mae wedi ei godi yn rhan o archwiliad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.