Plant ag Epilepsi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:06, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, er efallai nad yw Mark Isherwood a minnau yn cydweld ar lawer o faterion gwleidyddol, rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'n gilydd ar y cwestiwn o ganabis meddyginiaethol gyda'r Gymdeithas MS. Felly, tybed a gaf i ofyn a oes asesiad wedi ei gynnal o faint o blant yng Nghymru sydd ag epilepsi difrifol, ond a allai elwa hefyd ar gael olew canabis ar gael fel Billy Caldwell. Ac a wnewch chi hefyd sicrhau bod paratoadau yn cael eu gwneud i sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn fodlon ymateb i'r galw am ganabis meddyginiaethol ac yn fodlon ei ragnodi i gleifion os a phryd y bydd cyfyngiadau yn cael eu llacio gan Lywodraeth y DU?