Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Mae tai yn angen sylfaenol ac yn hawl sylfaenol. Rwyf wir yn credu bod hynny’n rhywbeth y mae angen inni ei gadw yn flaenllaw yn ein meddyliau bob tro y byddwn ni’n trafod tai. Does dim wythnos yn mynd heibio heb i fy etholwyr ei gwneud hi’n glir imi fod angen mwy o dai fforddiadwy—yn y saith diwrnod diwethaf, teulu o bedwar, gan gynnwys plentyn anabl, yn byw mewn fflat un ystafell wely; rhywun sydd i bob pwrpas yn ddigartref, yn mynd o soffa i soffa, gan ddefnyddio soffas yn nhai ffrindiau, gan nad oes ganddo gartref sefydlog ar hyn o bryd, a gallai’r man nesaf fod ar y stryd; menyw newydd ysgaru sy'n ei chael hi'n fwyfwy anodd talu’r rhent a godir gan landlord preifat. Dyma realiti byw yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain. Mae pob un yn drasiedi bersonol. Y peth trist yw, pe bawn i’n gwneud yr araith hon yr wythnos nesaf, byddwn i’n sôn am dri neu bedwar achos gwahanol o bobl â’r un angen am dŷ yn union. Sut rydym ni wedi cyrraedd y fath sefyllfa?
Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, doedd dod o hyd i dŷ fforddiadwy ddim yn broblem. Efallai na fyddech chi wedi cael tŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai yn ardal eich dewis cyntaf, ond roedd llety ar gael. Mae nifer o bethau wedi digwydd, rhai ohonynt o dan ein rheolaeth ni, a rhai heb fod. Mae maint aelwydydd wedi lleihau. Mae’r boblogaeth wedi cynyddu. Mae’r ddau ffactor hyn wedi rhoi pwysau ar fod angen mwy o dai.
Cawsom ymchwydd yn y 2000au cynnar, lle'r oedd pobl yn cael morgeisi 110 y cant, lle'r oedd gennym ni dwf economaidd cyson. Roedd pobl yn credu bod popeth yn mynd i fod yn iawn am byth, nes inni gyrraedd problem y cwymp bancio. Ym Mhrydain, roedd pris cyfartalog tŷ yn £100,000 yn y flwyddyn 2000 ac yn £225,000 yn 2007, cyn i’r chwalfa ariannol ddod â’r ffyniant i ben. Roedd hyn yn anghynaliadwy.