Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Diolch. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd mae hi yn bwysig ein bod ni yn dadansoddi sut y mae'r adolygiad hwn yn mynd i ddatblygu ac archwilio rhai o'r materion presennol o ran tai fforddiadwy. Rwyf wedi bod yn awyddus i gydweithredu ar yr agenda tai ehangach gan fy mod yn teimlo bod y Gweinidog tai yn rhannu llawer o'n pryderon ac rwy’n ddiolchgar ei bod wedi gwneud ymdrech i’n cynnwys ni wrth feddwl am y materion hyn. Fodd bynnag, mae’n anochel y byddwn yn anghytuno mewn rhai meysydd ac mae arnaf ofn bod defnyddio'r term 'uchelgeisiol' yng nghyd-destun strategaethau tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru yn un o'r meysydd hynny.
Yn gyntaf, mae dealltwriaeth eang nad yw 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor hwn yn ddigon; nododd Cartrefi Cymunedol Cymru y llynedd fod angen dros 4,000 o unedau tai cymdeithasol bob blwyddyn yn unig er mwyn ymdopi â’r cynnydd sylfaenol yn y boblogaeth. Wrth gwrs, nid yw hyn yn cynnwys y farchnad tai preifat, sydd wedi bod o dan bwysau cynyddol, yn enwedig ynglŷn â materion fforddiadwyedd.
Rwyf hefyd yn pryderu bod anawsterau â diffiniad Llywodraeth Cymru o beth yw fforddiadwy. Un o'r problemau mwyaf â’r diffiniad o 'fforddiadwy' ac, felly, beth mae’r Llywodraeth hon yn ei ystyried yn llwyddiant wrth adeiladu’r cartrefi hyn, yw cartrefi a brynwyd o dan gynlluniau fel Cymorth i Brynu. Dim ond 75 y cant o dai a brynwyd drwy'r cynllun Cymorth i Brynu a aeth i brynwyr tro cyntaf. Aeth chwarter i bobl a oedd yn prynu cartref gwahanol neu well, sy’n golygu, i dros chwarter y bobl a brynodd o dan y cynllun, nad oedd ganddynt broblemau â fforddiadwyedd o reidrwydd. Un broblem ddifrifol a nodwyd yw bod 2,277 o’r cartrefi a gafodd eu prynu o dan y cynllun—traean o'r rhai a brynwyd—yn werth dros £200,000. Ac rydym ni’n gwybod bod hwnnw'n swm eithaf swmpus. Felly, pam mae’r cartrefi hyn wedi’u cynnwys mewn ystadegau tai fforddiadwy? Sut yn y byd y gallwn ni ddweud bod y swm hwnnw’n fforddiadwy? Dim ond 701 o gartrefi a gafodd eu prynu am lai na £125,000—ffigur sy'n dal i fod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl.
O ran y sector rhentu, mae tai rhent canolradd yn dal i fod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl, yn enwedig pobl sy’n teimlo effeithiau newidiadau lles a thoriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, rwy’n credu bod angen rhoi sylw yn yr adolygiad hwn i’r manylyn hwn o beth yw fforddiadwyedd a sefydlu diffiniad manylach, cliriach o’r hyn a olygir wrth fforddiadwy. Heb ddiffiniadau clir, allwn ni ddim dechrau gallu asesu’n realistig beth mae gwir angen inni ymdrin ag ef yn rhan o'r argyfwng hwn.
Rydym ni yn nodi bod nifer yr unedau tai cymdeithasol newydd y flwyddyn yn cynyddu ond, pan ystyriwch y duedd gyffredinol dros y 40 mlynedd diwethaf, mae'r niferoedd sy’n cael eu cwblhau’n dal i fod yn isel. Rydym ni ar yr un lefel ar hyn o bryd â diwedd yr 1990au o ran niferoedd cwblhau blynyddol. Rydym ni hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y cartrefi gwag, er gwaethaf cynllun Troi Tai'n Gartrefi y Llywodraeth. Yn wir, bu cynnydd o tua 5,000 yn nifer y tai—roeddwn i’n mynd i ddweud noeth—y tai gwag yng Nghymru ers 2012-13. Byddai hynny'n ddiddorol, oni fyddai? [Torri ar draws.] Mae hynny wedi deffro pawb, onid yw? Mae'n amlwg i ni a dylai fod yn amlwg i bawb yn y Senedd hon, er gwaethaf sylwadau bachog a bwriadau da Llywodraeth Cymru, nad ydym ni’n agos at osod agenda ddigon eofn yn y maes hwn o ran y tai sydd ar gael yn y sector rhentu cymdeithasol, ac nad oes gennym ni’r diffiniadau cywir ar waith o ran hyd yn oed beth yw fforddiadwyedd.
Hoffwn droi yn fyr at rai agweddau eraill ar fforddiadwyedd, y mae’r Gweinidog wedi sôn amdanynt. Mae effeithlonrwydd ynni'n elfen allweddol i'r hyn sy'n fforddiadwy. Mae'n bwysig oherwydd gall cartref sy’n aneffeithlon o ran ynni ei wneud yn gartref anfforddiadwy hefyd. Caiff hyn ei gydnabod yn y ffaith bod gan Lywodraeth Cymru gynllun Arbed, a bod gan lywodraethau eraill ledled y DU eu cynlluniau eu hunain, ond dydyn nhw heb ddyrannu’r adnoddau sydd eu hangen i uwchraddio tai cymdeithasol yn llawn, ac ni chaiff y targedau ar gyfer dileu tlodi tanwydd eu bodloni. Mae eu hymdrechion wedi bod yn llawer llai uchelgeisiol nag yn yr Alban, ac felly mae'n debygol nad yw rhywfaint o'r stoc tai fforddiadwy presennol yn fforddiadwy.
Mae landlordiaid cymdeithasol wedi bod yn addasu mewn gwahanol ffyrdd i'r broblem hon. Cawsom ddadl yn ddiweddar lle gwnaethom ni sôn am beth sy'n digwydd yn Wrecsam o ran gosod paneli solar, ond dim ond un enghraifft yw hyn. Mae angen llawer mwy. Ceir problem ledled y DU wrth adeiladu datblygiadau newydd hefyd, sef nad ydym ni’n cynnwys hygyrchedd gwasanaethau canolfannau cyflogaeth yn rhan o'n hystyriaethau, a dyna pam rwy'n credu bod gwrthwynebiad i lawer o'r datblygiadau tai hyn, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Mae effeithiau llymder wedi golygu llai o safleoedd cynaliadwy, llai o ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus a llai o wasanaethau wedi'u cynnwys yn rhan o ddatblygiadau newydd. Mae hyn nid yn unig yn ei gwneud hi’n anodd i bobl sydd ar incwm isel i adeiladu bywyd cynaliadwy a fforddiadwy mewn cartref newydd, ond hefyd yn ei wneud yn llai derbyniol i eraill mewn ardal leol lle mae datblygiad newydd yn seiliedig.
Yn yr amser sydd gen i ar ôl—. Rwy'n credu bod angen inni wella’r hyn yr ydym ni'n ei wneud ynglŷn â hawliau tenantiaid, a hoffwn i weld Bil i'r perwyl hwnnw yn cael ei gyflwyno'n llwyddiannus yn y Cynulliad hwn. Rwy’n credu ein bod ni’n pasio sawl darn o ddeddfwriaeth ynglŷn â thai ond dydw i ddim yn gweld digon ar hawliau tenantiaid, ac yn amlwg mae gan hynny lawer i'w wneud ag ailddosbarthu, ond rwy’n credu bod angen ymgysylltu llawer mwy â nhw. Rwyf wedi bod yn ymweld â llawer o gymdeithasau tai lleol ac mae pobl yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu cynnwys gymaint ag y byddent yn ei hoffi mewn ffioedd rheoli a sut maen nhw'n cael eu pennu, yn y codiadau rhent y mae landlordiaid cymdeithasol wedi’u rhoi iddyn nhw. Felly, rwy'n annog y Gweinidog yn hyn i gyd i ystyried bod hawliau tenantiaid wrth wraidd unrhyw benderfyniadau a wneir yn rhan o'r adolygiad parhaus hwn.