Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Roeddwn i'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar ansawdd ac effeithlonrwydd ynni. Yn gynharach eleni, es i i ymweld â Chanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe, lle y gwelais ystafell ddosbarth effeithlon o ran ynni gyntaf y DU, sy'n dangos sut y gellir dylunio adeiladau i fod yn gynhyrchwyr ynni neu'n orsafoedd pŵer yn y cartref. Mae gan yr ystafell ddosbarth do solar integredig a storfa fatri, ac mae'r waliau sy'n wynebu'r de yn casglu ynni solar. Dim ond ers chwe mis y mae hi wedi bod yno, ond yn ystod y cyfnod hwnnw mae hi wedi cynhyrchu mwy o ynni nag y mae hi wedi ei ddefnyddio. Yn y Cynulliad blaenorol, roeddwn i'n falch o ymweld, gydag Aelodau eraill yn y fan yma, â Thŷ SOLCER ar Stormy Down, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, rwy'n credu, a gostiodd £125,000 i'w adeiladu. Gwnaeth hwnnw argraff fawr arnaf i a gwnaethpwyd argraff hyd yn oed fwy arnaf i ar ôl ymweld â SPECIFIC yn Abertawe ychydig o wythnosau yn ôl.
Rwy'n credu bod llawer o'r dulliau newydd, arloesol hyn o adeiladu yn digwydd, a cheir pocedi o ddylunio da iawn. Fe wnaeth Jenny Rathbone sôn am rai ohonynt yn ei chyfraniad hi ac mae hi wedi sôn am yr hyn y mae Cyngor Caerdydd yn ei wneud. Pan oeddwn i ym Mhrifysgol Abertawe, roedden nhw'n dweud wrthyf i fod y cysyniad hwn o fod yn bwerdy yn cael ei ddylunio i mewn i ddatblygiad newydd yng Nghastell-nedd gan gymdeithas dai—Pobl, rwy'n credu. Mae'r datblygiad hwn yn cynnwys toeon solar, rhannu storfa fatri, y potensial i drydanu cerbydau trydan—oherwydd, yn amlwg, wrth fynd i'r afael â'r broblem carbon, mae'n rhaid i ni wneud mwy am geir trydan—gwresogi dŵr gan gasglwr gwres solar ar waliau sy'n wynebu'r de, a gwres gwastraff yn cael ei ddal a'i ailgylchu yn yr adeilad, a bydd yr holl dechnolegau cyfunol hyn hefyd yn helpu i gadw biliau yn isel, gan fod y mathau hyn o adeiladau fel gorsafoedd pŵer yn gallu gostwng biliau tanwydd aelwydydd cymaint â £600 y flwyddyn a lleihau'r defnydd o ynni cymaint â 60 y cant.
Felly, beth allwn ni ei wneud yng Nghymru i sicrhau ein bod yn adeiladu'r mathau hyn o dechnolegau arloesol mewn cartrefi newydd ac, yn benodol, mewn cartrefi fforddiadwy? Nawr, ychydig o wythnosau yn ôl, fe wnes i gwrdd ag un o'r adeiladwyr tai preifat mawr sy'n adeiladu 2,200 o gartrefi yn fy etholaeth i, a bydd 30 y cant ohonyn nhw'n gartrefi fforddiadwy, a chawsom drafodaeth dda ynglŷn â'r manteision cymunedol a fydd yn dod i'r ardal yn sgil hynny—wyddoch chi, llwybrau beicio, a thocynnau bws i bobl, a'r mathau hynny o bethau—ond dydyn nhw ddim yn cyflwyno dim o'r dechnoleg cynhyrchu ynni yma, ac maen nhw'n adeiladu, wyddoch chi, 2,200 o gartrefi, ac mae'n rhan o ddatblygiad mwy o lawer, gan fod y boblogaeth yng Nghaerdydd yn tyfu ac mae gennym ni 8,000 o bobl ar y rhestr dai, felly mae angen y cartrefi newydd hyn arnom ni. Ond mae'n torri fy nghalon i braidd i weld y datblygiad tai eang hwn, lle y dylem ni fod â'r dechnoleg newydd hon wedi'i chynnwys ym mhob un. Meddyliwch cymaint o wahaniaeth y byddai hynny'n ei wneud i'r bobl sy'n mynd i fyw yno—fel yr wyf yn ei ddweud, mae 30 y cant ohonyn nhw wedi'u cynllunio i fod yn dai fforddiadwy—meddyliwch sut y byddai'n helpu pobl â'u biliau a sut y byddai'n arbed arian yn y dyfodol—wyddoch chi, i genedlaethau'r dyfodol. Byddai'n cyd-fynd â'n holl bolisïau, ond mae'r holl dai hyn yn mynd i gael eu hadeiladu yng Nghaerdydd nawr, a byddwn i'n tybio bod hyn yn digwydd â'r holl ddatblygwyr tai mawr, nad oes dim o'r dechnoleg newydd hon yn cael ei chynnwys ynddynt.
Felly, roeddwn i eisiau gofyn i'r Gweinidog, mewn gwirionedd, beth y gallem ni ei wneud am hyn. Beth y gallwn ni ei wneud i ddwyn perswâd ar adeiladwyr tai preifat? Yr adeiladwyr tai preifat mawr. Beth y gallwn ni ei wneud i'w darbwyllo i feddwl am y dyfodol? A byddwn i'n ategu'r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone am y rheoliadau adeiladu. Yn amlwg, gallwn ni ddylanwadu arnyn nhw drwy newid y rheoliadau adeiladu yn ôl i'r hyn a gafodd ei ddiddymu. Felly, tybed a allai'r Gweinidog ddweud wrthym ni a oes unrhyw gynlluniau i edrych ar y rheoliadau adeiladu a'r hyn y gallwn ni ei wneud i geisio adeiladu ar gyfer y dyfodol.