Grantiau i Wasanaethau Cyhoeddus

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:21, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Gall gwres yr haf fod yr un mor beryglus ag oerfel y gaeaf i bobl ddigartref. Mae gorludded gwres, diffyg hylif, llosg haul a glanweithdra yn dod yn broblemau difrifol i'r nifer gynyddol o bobl yng Nghymru sy'n byw ar y stryd.

Ysgrifennydd y Cabinet, tynnwyd fy sylw at stori Luke dros y penwythnos. Roedd Luke mor daer am ddŵr, fel y bu'n rhaid iddo yfed o doiledau. Ar ein strydoedd ni, yn ein gwlad ni, o dan eich Llywodraeth chi, mae pobl heb obaith yn cael eu gorfodi i ddioddef diffyg urddas sy'n annynol. Heddiw, mae elusen Wallich wedi galw am weithredu ar frys. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ganolog weithio gydag awdurdodau lleol a'r trydydd sector i weithredu ar frys i helpu'r bobl druenus hyn.

Mae dŵr ac eli haul yn flaenoriaeth arbennig i bobl ddigartref yn yr amgylchiadau hyn, felly a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa fesurau brys y mae'n bwriadu eu rhoi ar waith i sicrhau y gall pobl ddigartref ymdopi yn y tywydd hwn?