Grantiau i Wasanaethau Cyhoeddus

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:22, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod wedi gweld rhai o'r adroddiadau hyn fy hun, ac nad yw fy nghasgliad yn annhebyg i'ch un chi? Credaf ei bod yn ofnadwy fod pobl yn yr oes sydd ohoni yn gorfod gwneud y pethau hyn er mwyn cynnal eu hunain. Credaf y bydd pawb yn cytuno â'ch casgliadau ar hynny ac yn awyddus i gytuno â chi o ran eich ymagwedd tuag at hynny. Darllenais yr un adroddiad â chi heddiw, ac mae'n arswydus fod pobl yn y wlad hon yn byw yn y ffordd honno.

Mae'r Gweinidog tai yn ei lle ar gyfer y sesiwn holi hon. Mae wedi clywed yr hyn a ddywedoch, a bydd yn ymateb i chi. Ond gadewch i mi ddweud hyn: mae'r Llywodraeth hon yn gwbl ymroddedig i ddatrys problemau digartrefedd—fel y dywedwch, yn yr haf ac yn y gaeaf—ledled y wlad, a bydd ein hadnoddau bob amser yn cael eu blaenoriaethu i ddiwallu anghenion y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae'r Gweinidog mor ymrwymedig â minnau i hynny.