Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Rwy'n croesawu'r penderfyniad i ehangu lleoedd ysgol feddygol, er rwy'n gresynu na wnaethoch ddewis cyhoeddi'r ehangu hwn yma o ystyried bod hwn yn bwnc sydd wedi'i drafod gan gymaint ohonom ar gynifer o achlysuron. Mae gennym brinder meddygon, fel rydych yn gwybod, mewn rhai disgyblaethau megis ymarfer cyffredinol, pediatreg a rhewmatoleg. A ydych, drwy'r lleoedd hyn, yn gallu datblygu cynlluniau'r gweithlu yn y dyfodol a sicrhau bod gennym bobl a fyddai'n gallu dilyn y mathau hynny o arbenigeddau wedyn? Ac o ystyried y prinder meddygon, hoffwn wybod sut y gwnaethoch werthuso mai 40 o leoedd ychwanegol rydym eu hangen. A ydym angen mwy? Ai dyna'r cyfan o arian a oedd ar gael, neu a ydych yn credu mai 40 rydym eu hangen, ac y bydd hynny'n ddigon yn y dyfodol?
Yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych yn gynharach yr wythnos hon, sylwais ar y bwriad i alluogi hyfforddeion i ymgymryd â'u hyfforddiant meddygol i gyd yng ngogledd Cymru, a'u hyfforddiant ôl-raddedig. Er bod cydweithio pellach rhwng Caerdydd a Bangor yn gwbl allweddol i sicrhau bod hynny'n digwydd, pa drafodaethau, os o gwbl, sydd wedi bod â darparwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn enwedig yr ysbytai a allai gynhyrchu neu ganiatáu gwaith ar batrwm cylch fel rhan o'r hyfforddiant ôl-raddedig? Hoffwn wybod a ydych yn credu y gallwn wneud ein hyfforddiant ôl-raddedig i gyd yng ngogledd Cymru ei hun ai peidio, oherwydd clywsom yn ein hymchwiliad blaenorol i'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol ynglŷn â rhai o'r anawsterau o ran cynhyrchu neu allu gwneud rhywfaint o'r hyfforddiant hwnnw, oherwydd nad oes gennym yr arbenigeddau hynny i gyd o fewn ein strwythur cyfredol yng ngogledd Cymru. Diolch.